Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amdanat

amdanat

"Mi af i adref i nôl y car a galw amdanat ti.

Bydd e'n disgwl amdanat ti tu fas.' Rhoddodd y ffôn i lawr, troi at ddrws cefn y swyddfa a gweiddi, 'Thomas!' Agorwyd y drws gan ferch yn ei hugeiniau cynnar.

Tra oedd yn cerdded fel hyn, ei meddwl yn bell oddi wrth y bobl o'i hamgylch, agorodd merch ffenestr llofft tŷ cyfagos a galw allan, "Pamela, be wnei di yma?" Trodd Pamela i weld pwy oedd yno ac meddai'r ferch wrthi drachefn, "Rown i'n meddwl amdanat ti ychydig eiliadau cyn iti ddod i'r stryd.

Sgrifennodd ataf i holi amdanat.

A beth amdanat ti?

Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.

Yn wir, fi sydd wedi gofalu amdanat dros y saith awr ddiwetha 'ma.'

Maent wedi cau amdanat ac yn benderfynol o'th ddal yn gaeth.

Cawn ni weld be sy gen ti i'w ddeud amdanat ti dy hun.

''Does dim byd i'w rwystro fo alw yma amdanat ti, os hoffi di.'

Gofynnodd dy fam i mi gadw golwg allan amdanat ti.

`Amdanat ti roeddwn i'n poeni, bach, nid am y pres,' meddai Mrs Regan.

Wannwl dad, rwyt ti'n wlyb soc, fachgen, cer i'r cefn i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna oddi amdanat mewn dau funud, mi gei di ddigon o dyweli yn y cwpwr cynnes, dyna chdi.

Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu â hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl.

Mae rhywrai gerllaw yn siarad amdanat ti, ac fe alle fynd mlaen am beth amser, felly paid rhoi cyfle i bobol ddweud pethau cas amdanat ti.

Rydw i wedi dwyn y plant i fyny ar gyfer eu dyfodol heb feddwl dim amdanat Ti." Cododd ar ei thraed a galw ar ei phlant ar unwaith.