Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amddiffynnol

amddiffynnol

gweithred o drosedd yw pob rhyfel, gan gynnwys rhyfel amddiffynnol, a phan eir i ryfel, meddai, ystyriwch hyn am funud : yn ôl pa safon neu wrth pa fesur yr ydych am reoli eich dialedd fel na fydd yn gallu bod yn fwy na'r union daliad sy'n ddyledus ichwi am yr hasliau a dreisiwyd neu'r anrhydedd a sarhawyd ?

Cafodd Zoff ei feirniadun llym am arddull amddiffynnol ei dîm yng Nghystadleuaeth Euro 2000 gan y gwleidydd a pherchennig AC Milan, Silvio Berlusconi.

ac, fel mater o ffaith, os cyfaddefir bod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlon yna fe ganiateir popeth, oblegid onid yw'n ofnadwy o beth fod pedwar ar bymtheg allan o ugain o'r rhyfeloedd mwyaf erchyll sydd wedi gorlifo'r ddaear â gwaed wedi cael eu hymladd i'r pwrpas hwnnw, neu o leiaf fel esgus am hynny ?

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Gan mai ychydig a wyddom am fiocemeg a nodweddion mecanyddol haen galed amddiffynnol o'r fath, mae'n hanfodol gwneud ymchwil cyn tarfu ar sefydlogrwydd y safle.

Yn sgîl hynny, o wylio gemau y dyddiau hyn, cawn berfformiad amddiffynnol cadarn am eu bod mor drefnus.

Benthyciodd rygbir undeb nifer o dactegau amddiffynnol oddi wrth rygbi tri ar ddeg a dyna pam mae galw cynyddol am wasanaeth gwyr fel Phil Larder, Ellery Hanley a Clive Griffiths.

Gellir cysgodi o dan ddraenen mewn storm a bod yn hollol ddiogel gan ei bod yn goeden amddiffynnol.

Unwaith eto y tymor hwn fe dalodd Bangor yn ddrud am eu diffygion amddiffynnol.

a gâf awgrymu ichwi y gellir amau'n gryf ddilysrwydd egwyddor tebyg i'r un yr ydych chwi sydd o blaid rhyfel amddiffynnol yn sefyll wrthi, ac na ellir ei gweithredu heb ei bod yn arwain o raid, fel canlyniad i hynny ac mor anochel â ffawd, i holl gamwedd ac erchylltra yr holl drefn ?

Mae'r fam yn amddiffynnol o'i merch, ac ofn gadael iddi fynd, tra mae'r ferch yn ddall i anghenion y fam.

(Cynllun amddiffynnol yr Americanwyr, SDI, oedd y maen tramgwydd.) Dro arall does dim siw na miw i'w glywed.

Fuon nhw ddim unwaith ar y blaen ac yr oedd y problemau amddiffynnol yn amlwg.

Bu Llew yn ei chael yn anodd iawn i feithrin perthynas ar ôl hynny ond yn y diwedd llwyddodd Meira Ellis i dorri drwy ei furiau amddiffynnol.

'Amddiffynnol' - ond ystyr 'amddiffynnol' gan amlaf yw 'ymosodol'.

nid oedd sail i'r ddadl, meddai, y dylid condemnio pob rhyfel ac eithrio rhyfel amddiffynnol.