Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amgylchfyd

amgylchfyd

Yr hyn a ddigwydd yw fod unigolion yn cystadlu am adnoddau yn yr amgylchfyd, a bod rhai'n medru gwneud hynny yn well nag eraill.

Ni ddylid tyfu tomatos a chucumerau yn yr un tŷ gwydr gan fod gofynion amgylchfyd y ddau gnwd mor wahanol i'w gilydd.

Y tro hwn bydd yr ymgyrch yn ymwneud ag adfer amgylchfyd y blaned yn ogystal â heddwch.

Ieuenctid ac oedolion ifainc sydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan ddiweithdra cynyddol, prinder tai addas a rhesymol ac amgylchfyd greithiol a threuliedig.

Yndw, dwi'n grediniol bod rhywbeth o heddwch a thangnefedd y Nadolig rhywsut a rhywle yn treiddio i'r amgylchfyd ac i fyd natur yr adeg yma o'r flwyddyn.

Lleolir pob stori yng Nghymru a hefyd ceir amrywiaeth o themâu diddorol i ddifyrru ac ymestyn y plentyn - e.e. bwlio, anabledd a diogelu'r amgylchfyd.

Yr ydym felly, yn ogystal â darparu rhaglen lawn o weithgareddau i hybu'r Gymraeg yn y gymuned, mewn cydweithrediad ag awdurdodau ac asianteithiau eraill, yn weithgar ym meysydd datblygu'r economi, gwella'r amgylchfyd a thai a chynllunio.

Mae astudio adroddiadau arolygwyr yn ei gwneud yn amlwg fod gan y naill beth effaith ar y llall h.y. fod creu amgylchfyd diogel a bywiog i blant, lle cant eu hadnabod a datblygu fel unigolion, yn hybu'r broses o ddysgu.

Nid yw gwyddonwyr, gwleidyddwyr, a phobl yn gyffredin ond yn dechrau sylweddoli y pwysigrwydd ynghlwm â deall y prosesau sy'n digwydd yn ein moroedd, a'u heffeithiau ar weddill yr amgylchfyd.

Mae'r neges yn gyson - rhaid datblygu cyfundrefn sy'n parchu yr amgylchfyd - a chofleidir, gydag argyhoeddiad amrywiol, yr egwyddor o ddatblygiad cynaladwy.

Mae ei holl adwaith i'w amgylchfyd, fel y portreedir ef, yn arwydd pendant o'i benderfyniad i ddal ei dir ac o'i allu i ffynnu ymysg lladron a thaeogion.

Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.

A rhoi'r peth yn nhafodiaith ein hoes ni, y mae gofal am yr amgylchfyd yn gyfrifoldeb sylfaenol a osodwyd arnom gan y Creawdwr.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Yn ystod yr wythdegau yn arbennig, sylweddolwyd bod rhaid ymateb i'r difrod a achoswyd gan yr amaeth newydd hwn i'r amgylchfyd.

Roeddwn wedi dychmygu ei amgylchfyd yn wahanol.

Nid ydyw system amaethyddol sydd wedi datblygu tros amser o fewn cyfyngiadau'r amgylchfyd yn rhydd o effeithiau'r ffactorau wrth iddynt amrywio'n flynyddol a thymhorol.

Fe gre " ir 'byd' newydd ym meddalwedd y cyfrifiadur - byd lle mai'r amgylchfyd yw'r broblem y mae angen ei datrys, ac esblygiad yw'r broses o ddarganfod yr ateb.

Ymgais dyn ar hyd yr oesoedd i egluro byd natur a'r amgylchfyd a'i fodolaeth ef ei hun ar y ddaear.

Yn aml ceir darlun o deuluoedd hapus, amgylchfyd glân yn ogystal â'r enfys, sy'n symbol o heddwch rhyngwladol.

Mae'r tomatos yn hoffi amgylchfyd sych a'r cucumerau yn hoffi lleithder felly, ni ddylid eu cymysgu yn yr un tŷ a disgwyl tyfu'r ddau gnwd yn llwyddiannus.

'Roedd hyn yn rhan bwysig o'i ymdrech i danseilio rhesymeg materyddol naturiolaidd a dangos y berthynas sydd rhwng dyn a'i amgylchfyd.

Yn rhinwedd ei genedlaetholdeb dysgodd weld perthynas gymhleth iawn rhwng dyn a'i amgylchfyd.