Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amgylchynu

amgylchynu

Breuddwyd Justine Merritt oedd gweld y Rhuban Heddwch yn amgylchynu'r Pentagon, sefydliad milwrol yr UDA.

Yn God Save the Prince of Wales, a gyflwynwyd gan Sioned Wiliam, datgelwyd rhai o'r sgandalau ar straeon a oedd yn amgylchynu 10 o Dywysogion Cymru ac yn Ar ôl yr Orsedd, teithiodd Beti George i'r India i gwrdd â rhai o aelodau o deuluoedd brenhinol yr isgyfandir i gael gweld beth sydd gan fywyd i'w gynnig iddynt ar ôl iddynt golli eu statws brenhinol.

Wedi fy amgylchynu â chariad, yr oeddwn mewn môr o wynfyd.

Adeiladwyd hen wal gerrig yn y gornel yma o'r oriel, yn amgylchynu ysgubau o ŷd a cherrig malu hynafol.

Yna arweinwyd fi at yr ystanc trithroed, a thyrfa fawr o filwyr arfog yn fy amgylchynu.

Coed gogledd oer, coed y fforestydd mawr sy'n amgylchynu'r byd ar draws Ewrob a Sgandinafia, draw i Siberia, ac ar draws i Ganada.

Yn olaf, roedd yna arwyddion bod yna wain ganolog yn amgylchynu'r ffibrilau canolog a bod yna gysylltiadau rhwng y wain hon a'r ffibrilau perifferol.

20,000 o ferched yn clymu dwylo ac yn amgylchynu gwersyll Comin Greenham mewn protest yn erbyn gosod 96 o daflegrau Cruise yno.

Gyda'th gleddyf yn dy law fe ymuni â'r ugain marchog sydd wedi amgylchynu'r tri marchog.

Mae Eiryl yn edrych o gwmpas i wneud yn siŵr ei fod yn gwybod ble'r ydych, yna mae'n dweud "Rydym yn sefyll ar ochr dde-orllewinol y goedwig sy'n amgylchynu Godre.

I blentyn bach sydd heb eto feistroli iaith y gymuned y mae'n byw ynddi, y mae'r ffaith bod y bobl sy'n ei amgylchynu ag iaith yn dangos yn gwbl amlwg iddo eu bod yn DISGWYL iddo yntau hefyd ddatblygu'n siaradwr, yn ddylanwad pwysig arno.

Aeth â ni am ychydig o filltiroedd trwy goedwig dew nes inni ddod at wastadedd eang ynghanol y jyngl; yno safai Anghor Wat yn ei holl ogoniant wedi'i amgylchynu â llyn; yn y dþr gwelem ychen gwyllt yn nofio'n urddasol fel y gwelem ychen lawer gwaith o'r blaen yng ngwledydd De Ddwyrain Asia yn nofio yn unrhyw ddwr y caent afael arno.

O'r funud honno mae ystyron a synau a goslefau iaith ei gymdeithas yn ei amgylchynu.

Mae'r bobl mae Seth yn ei amgylchynu ei hun a nhw yn bobl hunanol, di asgwrn cefn.

Ac ymhen y flwyddyn i'r diwrnod yr oedd wedi amgylchynu tŷ Ty'n y Gilfach hefo'r polyn, a dod yn ôl i'r weirglodd, yn union i'r fan lle y dechreuodd ei gylch flwyddyn yn ôl.

(Roedd y gwŷr gyda llaw yn cyd-dynnu'n well o dipyn na'r gwragedd.) Bydd y camerâu weithiau'n cael eu hanelu at ei gilydd hefyd er mwyn dangos natur y syrcas gyfryngol sy'n amgylchynu'r cyfarfod.