Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amharchus

amharchus

Gair dipyn yn amharchus i'w ddarllen yn uchel!

Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.

Daeth terfyn ar y drefn seml hon pan wnaed y pastynwyr yn arglwyddi ac iddynt hwythau wneud deddf i roi pen ar y fath arferiad barbaraidd ac amharchus.

Pwy a all fesur ein dyled i'r Cymry hynny sy'n gwrthod gwerthu eu ffermydd i'w cyd-Gymry amharchus, gan ddewis yn hytrach ymddiried y tir sydd mor annwyl ganddynt i ddwylo'r sawl a rydd brawf digamsyniol o'i barch tuag at y tir hwnnw?

Yn ogystal â'r darllediadau a ddarparwyd gan Newyddion, ymhlith rhaglenni eraill roedd Trafodaeth Etholiad ‘99, Etholiad ‘99 a'r A-Y y Cynulliad bywiog ac amharchus.

Symudol yw'r boblogaeth nawr, ac er fod y newydd-ddyfodiaid, yn Gymry a Saeson, yn fwy amharchus o'r Sabath na'r oes o'r blaen, eto y maent hwythau yn parchu cymdogaeth dda ac y mae'r ddisgyblaeth gymdeithasol yn para yn ei grym.

Roedd hi'n barchus i fab fferm briodi merch fferm arall; nid oedd yn hollol amharchus i fab briodi'r forwyn, eithr gwarth oedd i'r ferch briodi'r gwas.

Yn ogystal âr darllediadau a ddarparwyd gan Newyddion, ymhlith rhaglenni eraill roedd Trafodaeth Etholiad 99, Etholiad 99 ar A-Y y Cynulliad bywiog ac amharchus.