Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amharod

amharod

Yn union fel mae peilotiaid yn ofni sôn am ddamweiniau, mae modurwyr hefyd yn amharod i grybwyll digwyddiadau anffodus cyn cychwyn ar daith.

Chwalodd y briodas ond amharod oedd Teg i adael Cwmderi.

Darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf ym mis Tachwedd, ond amharod oedd y BBC i ddefnyddio unrhyw iaith arall ac eithrio Saesneg, a hwnnw'n Saesneg ag acenion dosbarth canol Llundain.

Yr oedd trigolion Prydain, hefyd, yn amharod i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y pechod a ddug y fath alanastra ar y byd.

Er mor amharod oedd peirianwaith rhyfela Prydain, gwnaed rhai paratoadau eisoes.

Roedd yna un oedd yn amharod i ddangos ei wyneb.

Daeth rhieni yn fwy amharod i dderbyn gwasanaeth ymylol ac ar wahân gyfer eu plant.

Cododd cenhedlaeth yn y Gymru ddiwydiannol Seisnigedig heddiw sy'n amharod i gydnabod lle'r capeli a'r iaith yn ffurfiant cymdeithas eu rhan hwy o'r wlad.

Yn y sefyllfa hon mae'r anghredadun yn amharod i fyw gyda'r Cristion.

Roedd hi wedi dweud wrtho am adael llonydd i hwnna heddi - byddai'r bachgen yn ddigon amharod i fynd nol i Benderin fel yr oedd hi!

Ac unwaith eto roedd y Gonswliaeth Brydeinig yn amharod i gynnig unrhyw gymorth.

Roedd y ddau feirniad, RH Parry-Williams a John Lloyd Jones, yn barod i gydnabod camp greadigol y bardd, ond yn amharod i roi iddo'r wobr.

Sut y priododd y fenyw yma â'r cowmon amharod ymhen deng mis, a thrwy hynny dynnu atgasedd yr holl ardal am eu pen; nes bod rhaid iddyn nhw fyw mewn unigrwydd anghymdeithasol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ac Arweinydd y Cyngor i ymddiswyddo, gan eu bod wedi colli ymddiriedaeth a hyder y byd addysg yng Nghymru, ac wedi dwyn anfri ar enw Sir Gaerfyrddin fel bod pobl yn amharod iawn i weithio yn y sir.

Mewn gair, roedd y rhieni'n amharod i ddarparu addysg i'w plant, ac yn ddall i'r manteision i blant ac i gymdeithas.

Mae'r ffaith fod ein cymdeithas wedi bod yn araf i gydnabod argyfwng yn gysylltiedig â gofal plant ac mor amharod i wrando ar eu lleisiau yn dweud nad ydym wedi dod i oed fel cymdeithas.

Nis gwn pam, ond rhyfedd mor amharod fyddai'r seiri coed i gyflawni eu haddewidion.

Yr ydym yn amharod i fwrw heibio'n llwyr hen goelion ein tadau.

Y peth mwyaf twp heddiw oedd dwy ddarlith gan swyddog o Sgotyn, pryd y llongyfarchodd un o'r serjentiaid ar ei waith yn chwarae ffug-ddrama (rhedeg ar ôl ysbi%wr Almaenaidd ar gefn beic o Castellamare i Naples) a gofyn cwestiynau hurt iddo y byddai plentyn ysgol yn amharod i'w gofyn.