Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amherthnasol

amherthnasol

Ar ei orau, try ei bregethu'n berfformiad esthetig ac ar ei waethaf yn ddiflastod amherthnasol.

Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.

Credai cynifer o Gymry'r cymoedd diwydiannol hyn fod y Gymraeg yn isradd, yn hen ffasiwn, yn annigonol ac yn amherthnasol i anghenion y byd sydd ohoni.

Nid oedd ganddynt ronyn o amynedd tuag at grefydd na'r Eglwys gan fod y naill beth fel y llall yn eu golwg hwy yn gwbl amherthnasol.

Roedd y gorffennol bellach yn amherthnasol.

Nid amherthnasol yn y cyd-destun yma yw sôn am lyfr T Hudson- Williams, Y Groegiaid Gynt, er nad yw'r awdur yn honni fod y gyfrol honno yn fwy na llyfr rhagarweiniol, a ysgrifennwyd gyda'r amcan o roi rhyw syniad am gymeriad a diwylliant y Groegiaid i ddarllenwyr heb unrhyw gefndir o addysg glasurol.

Nid pethau amherthnasol yw'r rhain ond anghyfiawnderau sy'n wynebu ein pobl ifanc bob dydd o'u bywydau.

Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.

Sôn am amherthnasol, fedra'i ddim meddwl am well esiampl'.

Hynny yw, sinthesis o brofiadau gwahanol, oedd yn gwbl amherthnasol cyn iddo eu crisialu a'u patrymu.

Peth diddorol ac nid amherthnasol yw bod i'r gair 'bresych' ddau ystyr, sef 'cabaets' a 'cawl', ac i'r gair 'cawl' ddau ystyr, sef 'potes' a 'chabaets'.

Os mewn troedigaeth grefyddol yr oedd ei ddiddordeb ef, onid achlysur cyfleus - ond sylfaenol amherthnasol - oedd y cyd-destun hanesyddol a ddewiswyd?

Yn y cyswllt hwn nid yw'n amherthnasol nodi mai'r afon hon, ar un adeg, a nodai'r ffin rhwng cymydau Dindaethwy a Menai.

Yma yng Nghymru rhoddir anogaeth i ymgais dila ac arwynebol i ymateb i sefyllfa real y Gymru sydd ohoni, tra ystyrir ein hymdrechion ni i greu Diwylliant Gweledol Cymreig go-iawn yn amherthnasol...

Dro ar ôl tro mae'n symleiddio manylion er mwyn pwysleisio'r hanfodion - y graig, y môr, y tir - gan hepgor manion amherthnasol er mwyn dal ysbryd yr olygfa fel y gwelai ef hi.

Roedd y profion yn cynnwys tasgau a oedd yn aml yn ymddangos yn amherthnasol i rai a oedd am ddysgu siarad iaith, ac roedd y ddibyniaeth drom ar yr ysgrifenedig, yn eu gwneud yn anodd - yn enwedig fel yr eid i lawr yr ystod gallu.

Mae tudalennau gwe y swydddfa dreth i gyd yn cael eu paratoi yn Lloegr wrth gwrs - ac mae deddf 1993 yn amherthnasol.