Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amheuai

amheuai

Yn wir, y tu allan i'r cylch teuluol roedd iddi enw o fod yn ferch ddelfrydol, bob amser yn gwenu ac yn barod i sgwrsio â phawb; ond amheuai Mali fod ynddi fwy nag ychydig o elfen yr angel pen-ffordd.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Daeth i gof Mali yr achlysur pan welodd Dilys yn dda i ganmol siwt goch a wisgai Mali gan ddweud ei bod yn rhoi lliw iddi; amheuai Mali mai awgrym oedd hynny fod ei chroen yn ddiliw heb gymorth y siwt.

Fe awgrymodd un o ddatgeiniaid eiddgar Godre'r Aran fy mod i yn ei galw, ac nad amheuai na chawsid cefnogaeth iddi.

O giledrych o'i ôl weithiau, amheuai fod rhywun ar ei drywydd.

Amheuai'n gry mai o berllannoedd eu cymdogion y daeth y Bramleys, y Russets a'r gellyg.