Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amheuon

amheuon

Ond daeth rhywbeth yn ei llonyddwch wrth orwedd yno â holl amheuon Nina i'r wyneb.

Mae rhai wedi codi amheuon ynghylch ymarferoldeb darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y Cynulliad gan honni hwyrach nad oes digon o bobl ar gael gyda'r arbenigedd yma yng Nghymru.

Roedd amheuon, fel y dywed yr hen air, 'nid oes ond un sicrwydd', ac mae'r graig honno'n llawer cadarnach na'r haenau y gorwedd y glo yn eu mysg.

Mewn dim amser mae Cassie wedi cael rhan helaeth o fusnesi'r Cwm i noddi tudalen yn y calendr er bod amheuon mawr gan Hywel a Steffan yn enwedig o glywed bod ei fam a'i nain yn bwriadu ymddangos yn y calendr.

Dim cyfle i baratoi heb son am fynegi amheuon.

Gresyn o beth na fyddai y llywodraeth wedi gweld yn glir i dderbyn y gwelliannau a fyddai wedi dileu'r amheuon uchod.

Maen amlwg fod gan Graham Henry ei amheuon o hyd ynglyn â maswr Abertawe er mor llwyddiannus yw hwnnw yn rheoli gemau a chicio cywrain nid yn unig rhwng y pyst ond i'r ystlys.

Mae amheuon gen i.

Pa ateb oedd i amheuon felly oddieithr ceisio ymwroli a chredu'r gorau.

Fu yna erioed ddim byd tebyg o'r blaen ond gydag Eisteddfodau yr Urdd, Môn a Phontrhydfendigaid ddim yn cael eu cynnal - heb sôn am yr amheuon ynglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol - mae gwefan Annedd y Cynganeddwyr "wedi llamu i'r bwlch" a threfnu e-steddfod ar gyfer y beirdd.

Dwg i gof yn un peth amheuon Gruffydd am agwedd dybiedig ddilornus Lewis at yr Eisteddfod fel dim namyn 'gwyl y bobl.' Dengys hefyd fel y syniai Gruffydd am y gwahaniaeth barn o'r cychwyn fel dadl foesol yn ogystal a dadl esthetig, fel ymladdfa gwerthoedd.

Medrid mynd â'r achos o flaen tribiwnlys ond gan nad oedd gan unrhyw un a gyhuddid o fod eisiau dymchwel llywodraeth etholedig y wlad hawl i gael gwybod pa weithred neu ddatganiad ar ei ran a oedd wedi achosi'r amheuon gwreiddiol, amhosib oedd paratoi amddiffyniad effeithiol.

schon bist du ein Verfassungsfeind, sy'n gymysgedd o'r gwir a'r dychmygol, yn delio â'r effaith y mae'r amheuon hyn yn eu cael ar y darpar athro, Kleff.

Roedd gen i fy amheuon fod Bara Caws yn ceisio cael cynhyrchiad yn rhy aml ac felly'n dihysbyddu'r pwll bychan o ddramodwyr sydd gennym.

'Na, alla'i ddim,' meddai eto, 'achos hyd yn oed os ydi Huws Parsli'n dweud y gwir - ac mae gennyf f'amheuon - hyd yn oed wedyn rwy'n credu fod yna fater bach arall ar ôl, yn toes?

Ac roedd rhai'n barod i fynegi'r amheuon hynny.

Yr oedd yr amheuon a oedd Hughes, yn ddiau, yn dechrau teimlo am effeithioldeb y drefn hon i gau allan rhagrith o'r pulpud anghydffurfiol, wedi'u tawelu rhywfaint yn ddiweddar gan achos diarddel Edward Roberts gan y Methodistiaid.

Ond roedd yna amheuon yr wythnos diwethaf sut gae sydd yn y stadiwm hwnnw.

Hynny yw, roedd yr angen i fod yn ddogmatig yn gryf ynddo, ac roedd cyflwyno fframwaith pendant, heb godi amheuon, yn cyflenwi'i angen am awdurdod dibetrus.

Ac mae amheuon hefyd am ei berthynas efo Awdurdod Datblygu Cymru.

Cyn iddo gyrraedd gartref roedd yr amheuon wedi cilio ac wrth fynd i'w wely'r noson honno edrychodd ar ei gorff yn y drych.

Dyma'r rheswm, debyg iawn, i amheuon Williams Parry gymryd llwybr igam-ogam ac ansicr.

Codwyd amheuon a yw ein chwant i fynnu mwy a mwy o adnoddau'r ddaear, (yn aml ar draul rhywogaethau eraill a'r llwythau dynol llai pwerus) yn gynaladwy heb sôn am fod yn foesol.

Ni wn i, ond byddaf yn pensynnu rhywfaint ac yn cael amheuon ar y mater wrth weld yr olwg arallfydol yn llygaid ambell estate agent, ac wrth ryfeddu uwchben ar ucheledd dychymyg ei ddisgrifiadau o'r ffermydd sydd ganddo ar werth.

Wrth deithio adref y noson honno roedd Dei yn llawn amheuon.

Hwn oedd y tro cyntaf iddo ddangos ei liw comiwnyddol, a dyna yw'r ddelwedd ohono ers hynny; cadarnhawyd amheuon yr Unol Daleithiau ei fod yn gomiwnydd rhonc.

Mae amheuon nad ydy Mr Morgan yn gallu cynnal ei ddwy swydd.

Ac yr oedd hynny'n cyffroi amheuon yr awdurdodau.

Y mae rhai o'r amheuon ynglŷn â gallu'r llywodraeth i ymyrryd er mwyn sicrhau cyflogaeth lawn yn deillio o'r ddwy dybiaeth sydd yn weddill sef (vi) a (vii).

Oherwydd hynny gallai ddeall a chyfarwyddo'r gŵr ieuanc a fyddai'n ymladd â themtasiynau ac amheuon; gallai gydymdeimlo â'r trafferthus a'r helbulus, cyd-ddwyn â'r anwybodus os byddai ynddo beth daioni, a chydgyfranogi o lawenydd a thristwch ysbrydol yr hen bobl brofiadol.

Llwydda Shoned Jones i ddarlunio dirywiad perthynas a'r amheuon a'r twyll sy'n dod yn sgil y dirywiad yn fyw iawn gan osgoi'r melodrama all ddod i'r golwg mor rhwydd mewn stori fel hon.

Erbyn hyn roedd yr hogiau wedi dechrau blino ar y lol yma ac fe daflwyd amheuon ar gyfreithlondeb priodas rhieni'r gyrrwr, ymysg rhegfeydd eraill.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.

Gwyr pawb fod amheuon ac ofnau yn yr ardaloedd gwledig y bydd yr ardaloedd diwydiannol yn eu dominyddu.

Roedd clywed am y sachaid bwyd yn cryfhau fy amheuon am Twm Dafis.

MAE arolwg sy'n honni nad oes dim cysylltiad rhwng atomfeydd Wylfa a Thrawsfynydd ac achosion o gancr yn yr ardaloedd hynny, wedi codi pob math o amheuon.