Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amhosib

amhosib

nid yw'n gallu trafod newid fel proses, ac mae'r syniad o gonsensws sy'n ganolog i'r theori yn ei gwneud yn amhosib trafod grym a gwrthdaro.

Os gwelai pysgodyn gysgod ar y dw^r byddai'n amhosib ei ddal.

Medrid mynd â'r achos o flaen tribiwnlys ond gan nad oedd gan unrhyw un a gyhuddid o fod eisiau dymchwel llywodraeth etholedig y wlad hawl i gael gwybod pa weithred neu ddatganiad ar ei ran a oedd wedi achosi'r amheuon gwreiddiol, amhosib oedd paratoi amddiffyniad effeithiol.

Doedd digwyddiadau felly ddim yn amhosib'.

Cymerir hynny'n esgus dros geidwadaeth ronc yn amlach na pheidio, ond mae'n amhosib peidio a bod yn ymwybodol o'r blaen ellyn y mae'n rhaid ei droedio.

Mae'n amhosib rhagweld beth sy'n mynd i fod yn ddefnyddiol, felly rhaid dangos ffydd yng ngallu ymchwilwyr i sylweddoli potensial syniadau newydd.

Ond maen amhosib anwybyddu yr hyn a ddywedodd David Dobson yn y Dail Express yn dilyn y digwyddiad a roddodd gymaint o wefr i ohebwyr a gwneuthurwyr brâs.

Mae hi bron yn amhosib i lenor proffesiynol sy'n byw ar ei ysgrifbin neu'i brosesydd geiriau ennill ei damaid wrth ysgrifennu yn Gymraeg yn unig, er bod y sianel deledu Gymraeg yn siŵr o fod wedi bod yn gaffaeliad yn hyn o beth.

Amhosib cyflawni'r ddefod a dyma'r bobl – McDonaghs, Wards neu Barretts – yn codi eu pac gan ei bod yn amhosibl iddyn nhw barhau i fyw mewn lle aflan.

'Rwyn meddwl bod y stori yna wedi diflannu - mae pawb yn gwybod bod hynny'n amhosib.

Dau beth oedd yn cael sylw papurau a theledur wlad - y digwyddiad hwn a pha mor amhosib o annheg oedd maes golff Carnoustie i chwarae arno.

'Na, mae hynny'n amhosib!' Craffodd yn fanylach byth ar yr hen ŵr.

A rywsut, unwaith yr oedd Mam ar ben arall y lein, roedd hi'n amhosib ei siomi efo'r araith yr oedd hi wedi ei pharatoi mor ofalus.

Dim ond pan fydd yna gymaint o graciau nes ei bod yn amhosib gweld i lle'r ydych yn mynd y mae gyrrwr yn prynu ffenest newydd.

Roedd hi'n amhosib ynysu'r wasg Gymreig, ac erbyn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr roedd dylanwadau torfol eraill yn ennill troedle.

Mae'n amhosib i ni ofyn am ohiriad ar y sail ein bod ni'n gwybod am dyst a allai helpu'r amddiffyniad.

Achos y mae yna lot fawr mwy o siwgwr mewn siocled plaen - neu byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi bron â bod yn amhosib ei fwyta fo am 'i fod o mor chwerw!

Ond ni fydd gwaith ar gael i bob un o'r ugain sy'n gweithio ym Mangor ar hyn o bryd am fod rhai o'r swyddi'n amhosib i'w trosglwyddo, meddai'r Awdurdod yr wythnos hon.

Wrth gwrs mae'n amhosib troi y tap i ffwrdd, fel y gellir rhoi terfyn ar gynnyrch diwydiannol.

Roedd wedi gobeithio y byddai'r bechgyn hyna yn gallu dod adref i'r dathlu, ond gan mai newydd ddechrau yr oedd y tymor coleg roedd hynny'n amhosib.

A chredwch fi, mae bron yn amhosib gwrthod gan y byddai hynny'n cael ei ystyried yr amharch mwyaf.

Dywed fod pobl denau, ar y llaw arall, yn llawn tyndra ac anniddigrwydd parhaus syn ei gwneud yn amhosib bron iddyn nhw ymlacio.

Ar ôl sefyll mewn rhes am oriau i sicrhau fod eu plant yn cael un pryd maethlon y dydd, roedd hi'n gwbwl amhosib' i'r mamau gyrraedd yr ail ganolfan fwydo mewn pryd i gael eu bwyd eu hunain.

Pe byddech am greu uffern i rywun, byddain amhosib rhagori ar yr awr a dreulais i yn Y Fenni - achos hyd yn oed pan oedd saib yr oeddech ar bigaur drain yn disgwyl i'r uchelseinydd ffrwydro eto gydai negeseuon diddiwedd.

Roedd y gymysgedd afiach o waed a baw yn ei gwneud yn amhosib gweld ei wyneb yn iawn, ond am ryw reswm, gwyddai Myrddin yn union pwy oedd o.

Mae'n amhosib dychmygu noson olaf heb y ferch hon.

Fe fyddai bron yn amhosib' imi edrych ar y rhyfel heb ei weld fel brwydr rhyngon `ni' a `nhw'.

Roedd oddeutu 4,500 o docynnau wedi eu gwerthu a gan fy mod innau ychydig yn hwyr yn cyrraedd y pafiliwn, roedd yn rhaid bodloni ar sefyll yn y darn estynedig ohono lle'r oedd yn amhosib gweld dim oedd yn digwydd ar y llwyfan.