Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amino

amino

Wrth ffurfio ensym rhaid bod ynddi stor anferth o wybodaeth raglenedig er mwyn gallu penodi pa ddilyniant o asidiau amino sydd yn anghenrheidiol o blith llawer o wahanol drefniannau.

Mae'r proteinau yn bolymerau mawr gyda'r asidau amino yn unedau o fewn y polymer.

Cadwynau neu raffau hir o asidau amino wedi eu cysylltu â'i gilydd yw protein.

Dyma fframwaith sylfaenol y protein lle mae'r asidau amino unigol wedi eu cysylltu a'i gilydd drwy'r bond amid, sef y cysylltiad rhwng grwp amino asid a grwp carbocsylig yr asid amino yn y safle nesaf.