Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amlaf

amlaf

Sethrir ar ddiwylliannau gwannach ran amlaf dan gochi lledaenu diwylliant ac addysg arall i wledydd estron.

Ond yr un ateb gaf i ran amlaf: 'Dim arian ar hyn o bryd; rydych eisoes wedi cymryd mwy na'ch siŵr.' Gobeithio y bydd gen i ddigon o arian i dalu am hwn.

Ond y rhan amlaf, storiau o'r frest oedd ganddi.

Adroddiad digon digalon fyddai gennyf y rhan amlaf, ond chwarae teg i JE gwerthfawrogai bopeth a wnawn a diolchai am y gymwynas leiaf.

Gan amlaf byddem yn dehongli hynny fel arwydd gobeithiol, yn hytrach nag fel awgrym fod pethau'n mynd ar gyfeiliorn.

Byddai yntau'n sgrifennu i ddweud pryd y byddai'n cyrraedd (bys hanner awr wedi pump o Fangor gan amlaf), a byddai hi'n agor y ffenestri.

Ar ol gadael twnel mawr pedair milltir Alvra neu Albula, mae'r trenau prysur, prydlon yn mynd trwy saith twnel sylweddol arall wrth ddisgyn dros fil o droedfeddi i Bravuogn, gan droi o'u hamgylch eu hunain bum gwaith, y rhan amlaf y tu fewn i'r graig.

Yn wir, y record gyntaf imi ei phrynu oedd Megamix gan Technotronic (dechrau da te ba'?!), ac fe fyddai'r casgliad yn cynyddu'n wythnosol, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth y clybiau gan amlaf.

Gan amlaf, rhyw ddau neu dri a enir, er y gellir cael cynifer â phump mewn gwâl.

Gan amlaf fe gymer genhedlaeth i'r bregeth rymusaf ddylanwadu ar feddwl gwlad, ond gellir dweud i'r ddarlith hon ddylanwadu ar unwaith ar feddwl Cymru.

Pan aeth y Cymry ati i ailddarganfod y Groegiaid, ymddengys iddynt adael hyn oll o'r neilltu gan amlaf, a cheisio gweld gwrthrychau eu hastudiaeth fel dynion meidrol, ac yn wir fel dynion tebyg i'r Cymry eu hunain ar lawer agwedd.

Gan mai yn nhrymder nos, gan amlaf, yr â allan i bori bydd yn traflyncu ei bwyd yn fras er mwyn diwallu'r angen yn gyflym.

Nerth wrth gefn, felly, yw'r Frenhines a'r ddau Gastell gan amlaf - darnau i'w defnyddio gyda'r gofal mwyaf.

Y goeden fytholwyrdd a welir mewn mynwentydd gan amlaf yw'r ywen.

Yn y dosbarth hwn mae'r oedolion a'u hepil yn barasitig, gan amlaf ar naill ai aderyn neu famolyn.

Mae enwau'r ysgrifwyr yn warant o werth yr ysgrifau, sydd gan amlaf yn canolbwyntio'n effeithiol ac yn drylwyr ar un gerdd, gan egluro'r cefndir a'r cyfeiriadau a geir ym mhob un.

Ond yr un ateb gaf i ran amlaf: 'Dim arian ar hyn o bryd; rydych eisoes wedi cymryd mwy na'ch siâr.' Gobeithio y bydd gen i ddigon o arian i dalu am hwn.

Pwy oedd Gwenynen oedd y cwestiwn amlaf a glywyd.

Llwydda i bortreadu sawl cymeriad, sydd yn ferched gan amlaf, mewn modd sensitif.

"Boehme% sydd wedyn a chan mai dyna'r ffurf sy'n digwydd amlaf, gwell glynu wrthi drwodd.

Darnau o sgyrsiau pobol eraill mewn gwirionedd achos rhyw ran o frawddeg wrth iddyn nhw basio ydych chi'n eu glywed gan amlaf.

Cynhelid gorseddau gan ddilyn y defodau a arferid gan Iolo Morganwg yn ei orseddau cynnar ac, yn unol â'i gyfarwyddyd, yn enw Cadair neu Dalaith arbennig gan amlaf, ac o leiaf dri pherson lleol a oedd eisoes wedi'u hurddo'n Feirdd yn llywyddu'r gweithgareddau.

Problemau teithio Y dadleuon sy'n cael eu gwyntyllu amlaf yw'r gost uwch o deithio i'r de neu'r gogledd, safon gwael y ffyrdd yma yng Nghymru (hyn yn ei dro yn gorfodi aros dros nos); hefyd safon isel y pêl-droed a ragwelir yn y cynghrair newydd.

Gan amlaf, mae'r de nyddiau cemegol yn cael eu gwerthu yn ôl yr enw a roddir arnynt gan y cwmni%oedd masnachol, felly gwell i chwi egluro beth yn union sydd yn eich meddwl cyn prynu unrhyw ddeunydd cemegol ag iddo enw masnachol.

Dros y canrifoedd y ffurf Brecknock a arferwyd amlaf a dim ond yn lled ddiweddar y daeth y ffurf Brecon yn boblogaidd.

Pan ddechreuodd beirdd Cymru geisio efelychu patrymau clasurol yn y ddeunawfed ganrif, o dan ddylanwad Seisnig o bosibl, mae'n werth sylwi iddynt ddewis ffurfiau gn amlaf nad oedd dim yn cyfateb iddynt yn union yn y traddodiad Cymraeg, fel y fugeilgerdd, yr arwrgerdd neu'r epistol barddonol.

Gosodid yr ysgub gan amlaf ar draws y drws i'r ty a'r pâr ifanc wedyn yn neidio drosti heb ei chyffwrdd.

Weithiau yn unig y cawn iddo arfer y gair 'Cyfoeth' am 'Dalaith', ond y gair a ddefnyddiai gan amlaf yn ei drafodaethau ar y drefn farddol oedd 'Cadair'.

Yn Lloegr enwau anifeiliaid ac adar herodrol - rhai a ddigwydd ar beisiau arfau boneddigion - a geir ran amlaf a dyma sydd tu ol i enwau megis The White Lion, The Eagle and Child, The Unicorn, The Talbot (cidu).

Y tal a gawsem oedd chwe cheiniog am fynd rownd y cwrs naw twll a thair ceiniog, gan amlaf o gildwrn ar ben hynny.

Yn y rheini, gan amlaf, pwysleisir gogoniant y diwylliant a fu, a'i bwysigrwydd yn hanes Ewrob; fe roddir i ni ddarlun o gampau'r Groegiaid mewn celfyddyd, llenyddiaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth, gyda'r canlyniad y gwahoddir ni i'w hedmygu yn hytrach na'u deall.

Y ddau air syn cael eu defnyddio amlaf i ddisgrifio llyfrau Cymraeg yw lliwgar a swmpus.

Roedd yna gred - a oedd ran amlaf yn wir - fod y wasg yn ddylanwad.

Yn achos Ail Iaith Cynradd yr oedd pawb wedi nodi mai gan drefnyddion neu athrawon ymgynghorol y sir y cafwyd yr arweiniad, a'r ganolfan iaith wedi'i enwi gan amlaf, gan y cydlynwyr.

Ond teimlai ef mai wedi cael enw drwg yr oedd yn hyn o beth, gan ei fod yn dweud y gwir, a dim ond y gwir, gan amlaf.

Er mai grwpiau indie a geir gan amlaf, fel Zabrinski a Derrero, yr ail artist i ryddhau sengl oedd MC Mabon sy'n golygu fod cerddoriaeth hip-hop hefyd yn rhan o agenda Boobytrap.

Nid yr un math o gi chwaith!~ Weithiau, fe dynnau lun ci defaid, dro arall chow, a nawr ac yn y man bulldog, ond llun o derier bach a dynnai gan amlaf - rhywbeth yn debyg i ddisgrifiad Seimon o Cli%o.

Afraid yw dweud mai fi oedd y trydydd gan amlaf.

Fel arfer heddiw y sillafiad anghywir Cemaes a welir amlaf am i bobl dybio fod cysylltiad rhwng yr enw a'r gair maes.

Mae perchenogion y siopau priodol wedi ymateb yn gadarnhaol, yn ymateb o fewn diwrnod i unrhyw gŵyn rhan amlaf.

Er mai browngoch yw lliw ysgyfarnogod gan amlaf, y mae rhai gwynion i'w cael yn achlysurol, ond eithriadau yw'r rheini.

Yr oedd yr ychydig a wrthododd roddi gwasanaeth milwrol yn y rhyfel hwnnw wedi dioddef dirmyg ac erledigaeth, a charchar gan amlaf.

Er mai pedair o ganeuon a geir ar EP gan amlaf, mae Gwacamoli yn amlwg yn teimlo'n hael, gan fod yna bump ar Clockwork; ac yn sicr mae hynny'n beth da, gan mai Cwmwl 9 ydi'r gân orau ar yr EP yma heb unrhyw amheuaeth.

'Amddiffynnol' - ond ystyr 'amddiffynnol' gan amlaf yw 'ymosodol'.

A phan amcanai gerdded, nid symud yn drefnus o'r naill gam i'r llall a wnâi, ond rhyw fynd hwnt ac yma ar hanner tuth, a hynny gan amlaf ar flaenau'i draed.

Un o ddiwydiannau coll y Rhos, bellach, yw allforio ein merched i Loegr (gan amlaf) i weini.

Y gair a ddefnyddiwyd amlaf i ddisgrifio cyflwr crefydd yng Nghymru ym mlynyddoedd yr Ail Ryfel Byd oedd 'argyfwng'.

Y diwrnod cyn yr wyl, bydd pob ysgol led-led y wlad yn cynnal cyngerdd i ddathlu; gan amlaf gyda pherfformiadau dramatig gwladgarol, darlleniadau arwyddocaol, canu ac adrodd darnau o farddoniaeth.

mae sbloet o grio, meddai, yn para tua chwe munud ac yn digwydd, ran amlaf, rhwng saith a deg yn ystod y min nos.

Eto, yn gwbl ddirwgnach mae athrawon cydwybodol yn parhau i ysgwyddo y dyletswydd hwn a hynny gan amlaf heb air o ddiolch - ond gan wybod y byddant dan feirniadaeth lem pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.

Gan amlaf casglai Williams ei wybodaeth oddi wrth ffynonellau printiedig, gan adlewyrchu syniadau neu ragfarnau a delfrydau cymdeithasol y rhan fwyaf o'i wrandawyr.

Y rhan amlaf byddai yno bregethwr, ond pan fyddai un o'r blaenoriaid yn gweddio byddai dau arall yn ei "borthi%.