Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amled

amled

Ganddo ef nid coeden gyraints duon fyddai'r goeden ond coeden dyfu perlau, a masnachwyr perlau Llundain wedi gwisgo colyn llidiard yr ardd i lawr i ddim, gan amled eu mynd a dod i gyrchu'r perlau dihysbydd hyn.

Ond ar ôl oes Elisabeth y Gyntaf ni ddywedwyd hynny cyn amled yn Gymraeg.

Yn rhyfedd iawn roedd bron pob gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn gêm ddiflas cyn amled â pheidio yn cael ei chwarae ar nos Wener o flaen torf bitw.

Yn ôl yr awdur mae rheiny cyn "amled â gwybed Sir Gaerfyrddin".

A biti garw hefyd mai'r bobol sydd heb rithyn o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, na gwybodaeth chwaith cyn amled â pheidio, sy'n penderfynu pwy sy'n cael mwyafrif yn y Senedd.

Yr oedd ein dillad mor amryliw a siaced fraith Joseph' gan amled y clytiau oedd arnynt....Ond yr oeddym yn 'wyn ein byd,' ac yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn ystorio argraffiadau oeddynt i fid yn weledigaethau hynaws, prydferth, ymhen llawer o ddyddiau ac wedi i ni ymwasgaru ar hyd a lled y byd.

Ond nad yw y cyfle yn dod i'm rhan cyn amled ag y dymunwn y dyddiau hyn.