Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amlygiad

amlygiad

Gwrthododd llawer o'r dysgedigion mwyaf blaengar y syniad bod hanes yn amlygiad o gynllun mawreddog, a throesant yn ôl at yr olwg hiwmanistaidd ar hanes a oedd gan haneswyr Groeg a Rhufain.

Amlygiad o'i safle yw iddo gael ei gladdu ym Margam.

Er mor gryf y bywyd Cymraeg hwn ni buasai, er pan ymgorfforwyd Cymru yn Lloegr, draddodiad balch o wrthsefyll y sefydliad Seisnig mewn unrhyw amlygiad ohono.

Ar yr un pryd gosodwyd bri newydd ar hanesyddiaeth Gristionogol, h.y., hanes fel amlygiad o weithredoedd Duw.

Gyda'r amlygiad gorau o'r modd yr ymserchai'r abad hwn yn y beirdd yw'r cywydd a ganodd Iorwerth Fynglwyd i ddiolch iddo am rodd o win a dderbyniasai ganddo pan oedd yn glaf.