Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amlygwyd

amlygwyd

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

Gan fod yr aelodaeth yn galw gweinidog atynt, yr oedd modd iddynt wneud eu dewis ar sail profion o dduwioldeb a amlygwyd ym mywyd y pregethwr.

Roedd Edna yn nodedig am ei ffydd Gristnogol ddofn a chadarn a amlygwyd ganddi yn ei gweithgarwch yn ei hen gapel Saron am ddeugain mlynedd a mwy.

ni lwyddodd y brwdfrydedd a amlygwyd yn ystod y gynhadledd i barhau am yn hir yn ei ymchwydd ac i ddylanwadu ar drigolion prydain gan i louis napoleon bonaparte, tua deufis ar ôl y gynhadledd, ddymchwel gweriniaeth ffrainc drwy coup d' tat a gwneud ei hun yn ymherodr napoleon y trydydd.

Mae'r gofal a amlygwyd gan rai athrawon i sicrhau fod darllenedd y deunydd a ddarperir ganddynt ar gyfer plant yn addas i'r grwp targed, i'w gymeradwyo'n fawr ac yn rhywbeth y dylid ei ymestyn fel rhan o bolisi ysgol.

Roedd rhai pethau wedi newid, a hynny er gwaeth, er enghraifft, meddwdod a chyflwr tai, a chyfleusterau carthffosiaeth fel yr amlygwyd hwy yn ail adroddiad Dirprwywyr iechyd trefi gan Syr Henry De la Beche.

Amlygwyd arddull newydd wahanol o bensaerniaeth ac o gerflunio yn nhemlau a phlasau Angkor.

Amlygwyd ei hymrwymiad i gynnwys Cymru gyfan pan agorwyd stiwdio newydd y BBC yn Wrecsam, lle mae gan y rhaglen bellach ei gohebydd ei hun.

I Ieuan Gwynedd a'i gyd-wirfoddolwyr, yr oedd y brad, fel yr amlygwyd ef yn nisgrifiadau Symons, yn deillio, yn y lle cyntaf, o du'r Llywodraeth.