Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amod

amod

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Tudweiliog yn gofyn paham y rhoi'r amod person lleol ar y dyfarniadau mewn rhai achosion ac nid mewn eraill sydd yn ymwneud â safleoedd o fewn ychydig lathenni i'w gilydd.

Ond mae un amod: mae'n rhaid iddyn nhw fod yn Gymraeg.

Hynny yw, amod cyntaf parhad bywyd cenedl yw bod ganddi ei gwladwriaeth ei hun i'w gwasanaethu.

Pan gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r Rhyfel Cartref, fe ddywedodd Abraham Lincoln wrtho na wyddai am ddim mwy pwerus na The Times, `heblaw efallai y Mississippi' ac, wrth gyrraedd India i roi sylw i'r Miwtini Mawr, fe drawodd fargen gyda phennaeth y fyddin i gael yr holl wybodaeth a oedd ar gael, ar yr amod na fyddai'n trafod hynny yn unman ond ei lythyrau i'r papur newydd.

Amod bodolaeth pobl grwydrol oedd cwlwm teuluoedd, ac felly 'pobl' yn yr ystyr o gymundod o deuluoedd oedd Israel.

I ddechre, roedd e am roi deg mil o bunnodd i'r eglwys - ar un amod, fod y cerflun yn cal i osod yn y corff, reit yn ymyl y pwlpud, a set Madog.

Dyma oedd amod perthyn i'r rhwydwaith arbennig yma o Gymry Cymraeg.

Cytunodd Pengwern i fynd am chwe mis o seibiant ar yr amod fod trefniadau'n cael eu gwneud i dalu'r ddyled oedd ar y capel lleol a hefyd i ofalu am y plant amddifaid.

Yr oedd y deddfau hynny'n rhoi'r un breiniau i bobl Cymru â phobl Loegr, ond ar yr amod eu bod yn ymwrthod â'r Gymraeg.

Ddechrau'r flwyddyn, fe ofynwyd i ysgolion Cymru lunio safle gwe ar unrhyw bwnc, ar yr amod bod y safleoedd yn Gymraeg neu'n drwyadl ddwyieithog.

Dywedir ei fod yn beth cyffredin iddynt gael cyfathrach rywiol ar yr amod y byddant yn priodi os digwydd beichiogrwydd.

Maen bosib i'r penodiad gael ei herio gan Auckland, a ganiataodd i Henry adael Seland Newydd ar yr amod na fyddain hyfforddi neb ond Cymru.

Golyga hyn y dylai holl staff y Cynulliad fod yn ddwyieithog neu gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn effeithiol yn ystod oriau gwaith fel amod o'u cytundeb.

Y mae'r amod hwn yn gosod rheolaeth lwyr ar y rhyngweithiad ieithyddol, sydd yn hanfodol bwysig i barhad unrhyw gymdeithas ddwyieithog.

Mae Clerc y Cyngor, Mr George Gibbs, yn gweld budd mawr i'r datblygiad ar yr amod fod y Cyngor yn cael cynnig safle fyddai'n addas i gynnwys cae pel-droed a thrac rhedeg, clwb cymdeithasol a digon o le i barcio.

Yn yr un modd ag y mae ysgolion Cymraeg penodedig a mudiadau fel yr Urdd a Merched y Wawr yn gweithredu'n gyfan gwbl ddi-amod drwy'r Gymraeg, yr her yw sefydlu peuoedd Cymraeg sydd yn gyfochrog â'r rhai hynny sydd yn bodoli yn y Saesneg ar hyn o bryd.

Ond y mae yna amod." "O, beth ydi'r amod?" "Dy fod ti'n rhannu'r cyfrifoldeb efo fi." "O Alun, rydw i'n synnu atat ti, yn gofyn imi dy briodi di yng ngŵydd dy fam fel hyn." "Wnei di?

Mi ro i gyhoeddiad ichi yn y Capel Mawr ar yr amod 'mod i'n cael rhoi Alwyn Hughes Thomas yn y daflen gyhoeddiadau y flwyddyn nesaf.

Amod arall oedd bod yn briod.

Y drefn arferol, felly, yw bod pobl Libya yn cael caniatâd i fod yn berchen ar eu tai a'u ceir - ar yr amod nad ydyn nhw'n dwyn ffrwyth llafur pobl eraill.

Pedair amod â deud y gwir.

bod disgwyl i unrhyw gwmnïau neu asianteithiau sy'n cael eu cyflogi gan y Cynulliad i wneud gwaith ar ran y Cynulliad i fod yn gweithredu polisi dwyieithog fel amod ar eu cytundeb.

Câi'r neb a gyflawnai'r ddau amod hyn ysgrifennu beth a fynnent yn y ffordd a fynnent ym mha le a fynnent yn y llyfr.

Mewn gair, y mae Duw wedi caniata/ u tenantiaeth inni ar ei ddaear ar yr amod ein bod yn ei pharchu.

Mae'r amod hon yn golygu y byddai toddiannau fel metelau toddedig yn ogystal a halwynau anorganic yn anaddas.

Ceisiodd y Torïaid brynu'r Cymry Cymraeg trwy roi iddynt grantiau i ddiwylliant Cymraeg a'u Quangos bach eu hunain ar yr amod nad oeddent yn herio'r drefn.

Yr oedd hefyd eisiau amod y byddai'r clerigwyr (gweision suful eu dydd) a gâi eu penodi yn medru'r Gymraeg, ac yr oedd galwad ynddo hefyd am ddwy Brifysgol i Gymru, yn hytrach na chorffori sefydliadau Cymraeg gyda sefydliadau Saesneg.

Y mae hi'n angenrheidiol felly, i bob cynllun iaith fynd i'r afael â'r her o sefydlu peuoedd newydd i'r Gymraeg gyda'r un amod sylfaenol hwn yn aros yn gwbl ddi-wyro, sef mai Cymraeg yw unig iaith y man cyfarfod a'r gweithgareddau a drefnir.