Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amodol

amodol

Heddiw, mae'r gwasanaeth Prawf yn bodoli, ynghyd â dedfrydau gohiriedig, rhyddhau amodol a rhyddhau diamod.

GWERTHUSO: Tuedda buddiannau adennill tir i or-bwyso'n erbyn y costau, yn amodol ar gorffori materion yr amgylchedd yn ystod y cyfnod o ddylunio a chynllunio, yn hytrach na meddwl amdanynt fel elfen atodol i'w chyplysu ar y diwedd, ac yn amodol hefyd ar werthuso effaith yr holl waith arfaethedig ar yr amgylchedd, a phwyso honno'n erbyn y defnydd terfynol arfaethedig cyn cychwyn, neu hyd yn oed gynllunio, unrhyw waith.

Telir am Waith Nos ar gyfradd o un a hanner gwaith y Tal Dyddiol ac am or-amser Gwaith Nos ar gyfradd o un a hanner gwaith y gyfradd Gwaith Nos yn amodol ar yr uchafswm tal gor-amser.

(b) Derbyn y cynllun mewn egwyddor yn amodol ar dderbyn adroddiad pellach ar yr agweddau cyllidol cyn gweithredu'r cynllun.

Yr oedd Dŵr Cymru yn barod i ymgymryd â chynllun i wella'r sefyllfa yn amodol bod cysylltiad i'w wneud i bob un o'r tai.

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Hysbysodd y swyddog eu bod yn barod i werthu'r cyfan neu ran o'r maes parcio yn amodol bod llecynnau yn cael eu cadw ar gyfer defnyddwyr y trenau.

(b) Mynychu unrhyw gyfarfod arall a awdurdodir gan y Cyngor, neu bwyllgor neu is- bwyllgor o'r Cyngor neu gyd-bwyllgor o'r Cyngor ac un neu fwy o awdurdodau eraill, neu is-bwyllgor o'r cyfryw gyd-bwyllgor, yn amodol ar ei fod yn gyfarfod i ba un y gwahoddwyd o leiaf ddau aelod o'r Cyngor.

Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.