Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amrantiad

amrantiad

Trodd y tapiau a chododd y stem o'r dŵr chwilboeth ar amrantiad.

Ar amrantiad rywbryd ar ddarn o bapur yn rhywle, digartrefwyd ardal gyfan.

Ond o'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, cyrhaeddodd y môr y castell a gor-lenwi'r ffos mewn amrantiad.

Fe dderbyniodd dyn un rhan o'r etifeddiaeth ar amrantiad ei genhedlu oddi wrth ei rieni, ac fe ddaeth y rhan arall ohoni oddi wrth ei fagwraeth, yr hyfforddiant a'r amgylchedd o'i grud i'w fedd.

Y gyfrinach, meddai ef, yw synhwyro ar amrantiad beth yw'r pris isaf mae gwerthwr yn fodlon ei dderbyn heb ddangos iddo ef beth yw'r pris uchaf ydych chi'n fodlon ei dalu.

Daeth y llais o'r tu ôl i'r milwyr, o gysgod y tryc agosaf, mor sydyn ac mor annisgwyl fel y safodd pawb yn ei unfan yn fud ar amrantiad.

Rwyt ar dy draed mewn amrantiad ac yn agosa/ u atynt yn dawel.

Bob tro yr agorem ddrws ein gwesty yn Siem Reap fe'n cipiwyd i fyny ar amrantiad i ganol haid o feicwyr ieuainc stwrllyd a chanddynt foduron ar eu beiciau a cherbyd bach ynghlwm wrth bob beic i gludo teithwyr oddi amgylch.

Ond un o'r cysuron mwyaf i mi oedd fel y dysgodd ganu Hen Wlad Fy Nhadau mor ddiffwdan (gyda holl urddas pysgodyn aur mud, marweddog) ar amrantiad (drwy osmosis) yn y ddywededig gynhadledd ar lan hen Afon Ddyfrdwy ddofn, yng nghwmni yr anwylaf gwnewch-i- mi-fedd-mewn-unig-fan Wyn.

Nid ar amrantiad y deuir i lawn werthfawrogi blas eu siarad.

Ar amrantiad dywedir a yw ar y silffoedd neu allan o brint neu ar gael o'i archebu gan nodi faint o ddyddiau a gymer iddo gyrraedd.

Yn fwriadol, aethpwyd â Talkback allan o'r stiwdio ac o'r herwydd roedd yn rhaglen hyblyg a allai ymateb i bynciau llosg y dydd ar amrantiad.

Glyna'r plat ar amrantiad yn nhafod y gloyn, ac yna gwyra ymlaen er mwyn cyrraedd y man cywir i beillio blodyn arall.

Cawn yr argraff o gipolwg sydyn - amrantiad o olau, o symud, a hyd yn oed o synau, fel argraff gyntaf delwedd cyn iddi lawn ddod i ffocws.