Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amrediad

amrediad

Drwy weithio mewn partneriaeth ag amrediad o sefydliadau mae BBC Cymru yn uchelgeisiol yn ei gynlluniau i danio dychymyg y wlad a dod â dysgu i bob sector o'r gymuned drwy ei fenter dysgu gydol oes.

Gall gwneud tipyn o ddarllen cefndirol fod yn fuddiol hefyd ac mae yna amrediad o ddeunyddiau ar gael drwy'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon.

Bydd amrediad y gweithgareddau'n gul a detholiad cyfyngedig yn unig o destunau hawdd a gaiff y disgyblion.

o'u darllen: amrediad, cywirdeb a rhwyddineb eu darllen; eu gallu i ddarllen, deall ac ymateb i amrywiaeth o destunau mewn amrywiol ffyrdd;o'u hysgrifennu: swm ac amrediad eu hysgrifennu; eu gallu i ysgrifennu'n gywir ac yn briodol at wahanol ddibenion.

ansawdd yr addysgu - gan gynnwys maint a phriodoldeb disgwyliadau'r athrawon am y disgyblion a'r amrediad o strategaethau addysgu a ddefnyddir ganddynt i gyflwyno ffeithiau a gwybodaeth, i roi ymarfer mewn sgiliau ac i sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth.

Maent yn gyfarwydd ag amrediad o strategaethau ar gyfer darllen ac yn eu defnyddio'n effeithiol.

Mae'r amrediad o anghenion addysgol arbennig yn eang iawn, ac yn amrywio o anawsterau dysgu cymharol fychan i anableddau dwys a lluosog.

Dylai'r dysgu lywio gwybodaeth gynyddol am iaith ac ymwybyddiaeth gynyddol bod iaith yn gwasanaethu amrediad o ddibenion ac yn amrywio yn ôl y cyd-destun a'r gynulleidfa neu'r darllenwyr.

Mae eich trefnydd lleoliadau athrawon yn darparu gwasanaeth cyflawn sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo hyd yr eithaf holl fanteision y lleoliad, ac mae hynny'n cynnwys darparu amrediad o ddeunyddiau i gefnogi'r lleoliad a manylion am opsiynau ar gyfer achredu.

Cyd- destun oedd Gwynedd i'r holl amrediad o sefyllfaoedd uniaith a dwyieithog (ymestynnol a gostyngol) a welir mewn addysg uwchradd yng Nghymru.

tri Bydd eich trefnydd lleoliadau athrawon yn eich cynorthwyo drwy bob cam o'ch lleoliad gan ddarparu amrediad o ddeunyddiau ychwanegol.

Bydd disgyblion yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau ac at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; byddant yn fwyfwy abl i drefnu eu deunydd, i ysgrifennu'n gywir, i reoli sillafu a llawysgrifen; amlygant afael briodol ar Gymraeg a Saesneg safonol a gallant adnabod a defnyddio amrediad cynyddol o arddulliau a chyweiriau iaith; byddant yn adolygu ac yn ailddrafftio'u hysgrifennu gan ei gyflwyno'n briodol.

Mewn laserau fel hyn nid yw egni'r atom yn disgyn i lefel bendant fel yn y Nd:YAG, ond yn hytrach i fand - amrediad o lefelau'n gwau i'w gilydd.

Lle bo ansawdd y dysgu'n dda, bydd disgyblion o'u gwirfodd yn siarad gyda hyder; yn cymryd rhan weithredol mewn amrediad o weithgareddau llafar sy'n cynnwys cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Maent yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrediad o destunau o gymhlethdod cynyddol a gallant ddeall ystyron ymhlyg yn ogystal â'r arwynebol a'r amlwg.

Anaml y bydd disgyblion yn ysgrifennu; gall eu gwaith fod yn gyfyngedig ei amrediad, heb ei drefnu'n dda, yn anghyflawn, yn anniben neu'n fle/ r yn sgîl sillafu gwael a gwallau gramadeg; ychydig a wyddant am ddiben neu gynulleidfa a chyfyngedig yw eu gallu i wella ar eu hymdrechion cyntaf.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Cwmni yw Cynnal a sefydlwyd gan Gynghorau Sir Gwynedd ac Ynys Môn i ddarparu amrediad o wasanaethau addysgol.

Rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan gyflawn mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar gan ddod ar draws amrediad eang o lenyddiaeth a thestunau eraill, gan gynnwys deunydd gyda dimensiwn Cymreig.

Anaml y bydd disgyblion yn darllen a chul yw amrediad eu darllen; ni fyddant yn darllen yn rhwydd a dealltwriaeth rannol neu ansicr sydd ganddynt o'r hyn a ddarllenant.

Mae asesiadau athrawon mewn iaith yn rhoi ystyriaeth i gynnydd y disgyblion yn yr amrediad llawn o waith llafar, darllen ac ysgrifennu.

Gellir dadlau bid siwr, mai cyfyngedig yw rhychwant teimladol a ffurfiol a thestunol y naill a'r llall o'r beirdd hyn, bod maint eu cynnyrch, ac amrediad eu harddull a'u profiad yn fychan.