Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amryfal

amryfal

Mae aelodaeth y paneli a'r gweithgorau hyn yn adlewyrchu amryfal agweddau ar addysg Gymraeg, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r gwahanol sectorau addysg a rhanbarthau Cymru.

Cyn iddo fynd i Gadair y Cyngor bu am ryw bum mlynedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth, yn gofalu am raglen gyhoeddi'r Eisteddfod ac yn gwirio a chadarnhau ei thestunau llên flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amryfal is-bwyllgorau lleol a'r canol.

Yn rhy aml rhoddir blaenoriaeth i'r dechneg gan anwybyddu dealltwriaeth ddigonol o sefydliadau a pherthnasau sydd ynghlwm wrth amryfal agweddau o'r economi.

Mae yna amryfal bobol yn mynd i fyny ac i lawr yr allt 'ma yn eu cerbydau, yn codi'u dwylo arna i.

Fel rheol, pwysleisiant mai sylfaen meithrin medrau yn yr amryfal agweddau ar y cwrs addysg yw cynnig profiadau dysgu uniongyrchol sy'n hybu diddordeb, chwilfrydedd a mynegiant plant ifanc.

Dywedwch wrth y ci fod mwy o gig ar goesau'r estate agent, yr hyn sy'n debyg o fod yn llythrennol wir, am amryfal resymau.

Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.

Mae'n sicr bod economeg Keynes wedi bod o fudd mawr i ddeall amryfal droadau'r economi, ac wedi cyfarwyddo aml i bolisi ar gyfer chwyddiant a datchwyddiant.

Gallai hwn bara awr neu ddwy, er mwyn rhoi amser digonol i'r gynulleidfa ystyried amryfal oblygiadau'r ddeialog gynnil a myfyrio trostynt.

Roedd yr aelwyd honno wedi'i mynych gydnabod yn bwerdy daioni'r genedl ers hir amser gan grefyddwyr, gwleidyddion, llywyddion eisteddfodau, areithwyr Dygwyl Dewi, dirwestwyr, beirdd, stori%wyr, cerddorion, artistiaid a llu o amryfal gyfranwyr a fwydai bapurau a chylchgronau Oes Victoria.

Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).

Yn ogystal â'i brofiad helaeth ym myd darlledu mae hefyd yn wr o amryfal ddiddordeb allanol.

Mae'n siop sy'n gwerthu amryfal nwyddau, pethau da, papurau newydd, caniau Côc, cardiau Pen-blwydd, fferins siocled...

Mae gan bob adran newyddion stôr o wybodaeth wedi ei ddosbarthu'n ofalus dan wahanol benawdau fel ffynhonnell ffeithiau ar amryfal bynciau.

'Ol-nodiad' yw'r bregeth rymus hon ond ceir broliant yr un mor huawdl mewn pennod ragarweiniol i'r nofel lle traethir am amryfal ddylanwadau drwg 'cam'r nos'.

Dyma'r amser i annog amryfal ysgrifenwyr i ymroi i ddweud stori fawr y De - a stori fwyaf y Gymru fodern.

Eto cynlluniai fodd i ymddial a dianc, ac nid oedd y moddion amryfal a'u cynigiai eu hunain iddo yn amhosibl i'w ddychymyg beiddgar.