Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amrywio

amrywio

Laserau tiwnadwy Un o'r datblygiadau mwyaf cynhyrfus ym myd y laser yn y blynyddoedd diwethaf yw'r laser tiwnadwy - laser lle gellir amrywio tonfedd y goleuni a ddaw ohono.

Drwy amrywio'r pellter rhwng y drychau yn y laser gellir dethol un donfedd arbennig.

Mae'n wir fod y werth yn amrywio o bentref i bentref - yn dibynnu ar natur y gymuned leol, union leoliad adeilad yr ysgol, ac unrhyw gyfleusterau eraill yn y pentref.

Yn wir, arddull rydd, fras iawn sydd i'w gweld yn y gwaith er ei bod yn arddull sydd yn medru amrywio o ddarlun i ddarlun yn ôl fel y bo'r galw.

Mae'r pentrefi'n amlwg yn amrywio o ran maint a staws - rhai gyda nifer o dai sylweddol, a gerddi, a llwybrau dymunol rhwng y coed ar y ffiniau - darlun chwedlonol a rhamantaidd o flaen fy llygaid - eraill yn fwy clod a diaddurn.

Mae'r naill a'r llall yn meistroli mecanwaith cnewyllyn yn y meddwl, ac yn dysgu amrywio o'i fewn.

Mae'r cyfeiriadau yn amrywio o'r cyffredin i'r anghyffredin o'r disgwyliedig i'r annisgwyl.

Bydd y moddion a ddefnyddir i ddehongli'r cyfrifon a dod o hyd i esboniad ar sefyllfa busnes yn amrywio yn ôl ei natur arbennig.

Ar wahan i orfod ad-dalu'r swm ei hun, mae'n rhaid talu'r llogau, wrth gwrs, ac mae'r rhain yn amrywio'n ddirfawr o le i le.

Y mae nifer y bobl ym mhob un o'r tri grŵp hyn yn amrywio o un rhan o'r wlad i'r llall, fel y gwelir yn y tabl hwn

Yr oedd hi'n ddigon o artist greddfol i amrywio ychydig ar y stori bob tro.

Mae'r defnydd hwn o wahanol Foddau'r Ferf yn amrywio tôn gyffredinol y Llythur, sy'n gymysg o bendantrwydd y Mynegol ac oferedd y Dibynnol i amwyster y Gorchmynnol sy'n cyfuno'r diffyg amynedd efo'r dyn pengaled pwl ei oleuni a'r parch a'r anwyldeb y mae'n ei haeddu fel unigolyn rhydd a chanddo'r hawl i ddewis.

Mae'r raddfa hon yn amrywio yn ôl graddfeydd llog morgais ar y pryd, yn cynyddu pan fydd cost benthyca yn cynyddu, ac i'r gwrthwyneb.

Mae gwahaniaeth rhwng lleuad a lleuad mewn gogoniant hefyd gyda thros ugain o dermau â lleuad yn rhan ohonyn nhw - yn amrywio o lleuad fain i leuad march melyn a lleuad naw nos ola.

Wir yr go iawn fy enw i yw Wali Tomos Yn awr arbrofwch gydag ymddangosiad y testun trwy amrywio'r ffont, y steil, a'r maint.

Fel y cawn weld, mae agweddau'r beirdd a'r llenorion Cymraeg at y clasuron yn amrywio'n aruthrol, ond prin iawn y gwelir un ohonynt yn methu ag ymateb o gwbl i lenyddiaeth glasurol.

Mae'r amrediad o anghenion addysgol arbennig yn eang iawn, ac yn amrywio o anawsterau dysgu cymharol fychan i anableddau dwys a lluosog.

Gall hyd yr oediad gweithredu amrywio hefyd yn ôl y math o fesurau a fabwysiedir.

Mae nhw'n amrywio'n fawr ac er y cewch chi lawer sy'n hollol ddigymeriad, mi ddowch chi ar draws nifer o rai eraill diddorol iawn.

Dylai'r dysgu lywio gwybodaeth gynyddol am iaith ac ymwybyddiaeth gynyddol bod iaith yn gwasanaethu amrediad o ddibenion ac yn amrywio yn ôl y cyd-destun a'r gynulleidfa neu'r darllenwyr.

mae'r enghreifftiau uchod o ysgrifennu hyd at un tudalen neu fwy nag un tudalen yn galw am asesiad gwahanol lle bo maint yr ysgrifen yn amrywio.

Yr ydym yn gyfarwydd â nifer mawr o ddiffiniadau o'r pwnc, yn amrywio o ddweud mai 'Economeg yw'r hyn y mae economyddion yn ei wneud', i'r disgrifiad hwnnw sydd yn sôn am rannu adnoddau prin rhwng galwadau niferus.

Anogwn yr Awdurdodau Addysg Sirol i hyrwyddo arbrofi gyda gwahanol fodelau o glystyru ysgolion - yn amrywio o gydweithio at ddibenion penodol yn unig drwodd at ffederasiynau ffurfiol gydag un strwythur staff.

Mae nifer y staff o'r fath yn amrywio rhwng canolfannau.

Yr ydych yn ceisio darganfod sut y mae ansawdd yr amgylchedd yn amrywio o un lle i'r llall.

Ond rwyf wedi dweud digon i ddangos bod silia, er eu bod mor fach ac mor syml, mae'n debyg, yn gallu amrywio yn eu ffurf a'u swyddogaeth yn helaeth iawn.

Hefyd, bob nos (Llun-Gwener, amserau'n amrywio) bydd cyfle unigryw i flasu gweithgareddau'r Babell Lên, mewn rhaglen awr neu fwy o hyd.

Mae dyfnder yr ymateb yn amrywio o lun i lun.

Nid oes patrwm syml i ddosbarthiad yr ucheldir ac mae nodweddion yr ardaloedd mynyddig yn amrywio'n helaeth.

bydd cyfle i amrywio o flwyddyn i flwyddyn wrth asesu dogau o'r fath.

Mae nifer y blodau a'r planhigion a welwch chi yn amrywio yn fawr iawn yn ôl maint y Cloc ei hun, ond amcangyfrifir fod y nifer hwn yn gallu amrywio rhwng pum mil a phedwar deg mil.

Y peth canolog a wna baban yw adeiladu'r frawddeg hon (neu amrywiad arni), a dysgu amrywio o fewn ei rhannau.

Mae elfennau eraill o'r hinsawdd, megis tymheredd a heulwen, sy'n berthnasol i amaethyddiaeth, hefyd yn amrywio o ardal i ardal.

Y mae cartrefi pobl, y gwaith a wnânt, y ffordd y defnyddir y tir, a'r gwasanaethau sydd a gael yn gallu amrywio mewn gwahanol rannau o'r wlad.

O gychwyn a'r safbwynt hwn, cam hawdd oedd datblygu system o nodau tymor-byr, y naill yn adeiladu ar sail yr un blaenorol, a phob un yn gyraeddadwy ar ôl cyfnod cymharol fyr o astudiaeth, a allai amrywio o ran hyd, adnoddau, gallu'r dysgwr, etc.

Y mae'n cynnig cyfleoedd di-ri ar gyfer hamddena, yn amrywio o gerdded yn dawel i farcuta.

Nid ydyw system amaethyddol sydd wedi datblygu tros amser o fewn cyfyngiadau'r amgylchfyd yn rhydd o effeithiau'r ffactorau wrth iddynt amrywio'n flynyddol a thymhorol.

Rhan o'r proses yma, yn anochel braidd, fu datblygu golwg ar yr hen fyd - golwg a fyddai'n amrywio, wrth reswm, yn ôl tueddion a daliadau'r unigolyn.

Dewis Cainc Bod yr arfer heddiw o ddewis neu nodi ceinciau ymlaen llaw i'w gymeradwyo yn ogystal â chaniata/ u rhyddid i'r cystadleuwyr i'w dewis, eithr, fel y ` cynhyddo'r wybodaeth o'r gelfyddyd, fe gymeradwyir amrywio'r rheol hon.

Rhyw wawch uchel o chwerthiniad ydoedd, ebwch a oedd yn amrywio rhwng rhuad a gwich, a'r ffrwydriadau hynny'n mynd ac yn dod am hir, hir.

Mae rhain yn amrywio o hadau cribau'r pannwr a hadau'r ysgallen sydd wrth fodd nico, i gnau y pigwrn neu'r mochyn coed sydd yn mynd a bryd y gylfingroes.

Hyd yn oed os mai naddo oedd yr ateb i'r ddau gwestiwn, y mae'n debyg eich bod yn gwybod bod y ffordd y mae pobl yn byw yn amrywio yn fawr o un rhan i Brydain i'r llall.

Er bod y mudiad cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ehangu, mae eu cyfraniad hwy i ddarparu cartrefi parhaol ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â llochesau yn amrywio'n fawr iawn.

Mae'r deunydd print a gynhyrchir yn amrywio o fod yn daflenni du a gwyn i'w llungopi%o i lyfrau lliw llawn.

Ond o fewn y cynllun trifflyg syml a rhesymegol hwn dengys yr awdur gryn allu wrth amrywio ei dechnegau naratif ac wrth ddefnyddio dulliau adrodd gwahanol.

gall natur y dasg neu hyd yn oed ofynion y datganiad ei hun amrywio.

Yn naturiol, ceir yn y rhan o'r rhagymadrodd sy'n canolbwyntio ar yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio o'r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth fel Howel Harris, i'r nifer o benillion a ddosbarthai'r anterliwtiwr i'w hactorion.

Mae cyfraniad y grant tuag at staffio'r canolfannau yn amrywio.

Owen, a'i arian mân yn bentwr o'i flaen, a thrwch y mwg o'i getyn ac o'i geg yn amrywio yn ôl addewid y dominôs yn ei feddiant ar y pryd.

Ar ôl sefydlu'r frawddeg seml, nid yw datblygiad pellach - datblygu gair unigol i fod (a) yn ymadrodd, neu (b) yn gymal, neu amrywio trefn olynol - ond yn fater o estyn yr un cynhwysion.

'Mae nifer helaeth o broblemau iechyd, yn amrywio o'r clefyd siwgwr i glefyd y galon, yn gysylltiedig â bod yn rhy drwm.

Mae hyd y tymor tyfu hefyd yn amrywio'n flynyddol gan ddylanwadu ar y tymor pori, cyflenwad ac ansawdd porthiant gaeaf a'r angen i ddod ag anifeiliaid o dan do.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Gall y nifer o hecsagonau amrywio - os mai ugain hecsagon sydd ceir sfferoid perffaith y bêl bêl-droed.

Mae lefel yr ymlyniad yn amrywio e.e. ym 1987, bu bygythiad i gau Ysgol Llanfihangel-ar-Arth (a leolir yng nghanol pentref nad sydd ag unrhyw neuadd arall) ac hefyd Ysgol Penwaun (a wasanaethai ardal wledig wasgarog). Achubwyd y naill a chaewyd y llall.

Dewin - Gwasanaethau Cyfrifiadurol / Computer Services - Gwasanaethau yn amrywio o ddylunio i ddylunio gwe, i osod rhwydweithiau, a hyfforddi ar feddalwedd a chaledwedd.

Bydd y dyfrhau'n amrywio yn ôl y tywydd ond mae'n rhaid cofio bod tomatos, fel llawer o blanhigion eraill, yn ymateb yn dda i ddyfrhau a bwydo cyson.

Yn ail, mae llawer o'r rhai sydd yn y gerddi yn y Gwanwyn a'r Haf yn ei throi hi am y wlad yn y Gaeaf ac yn bwydo ar bob math o hadau, a hefyd ar weddillion y grawn yn y caeau ūd a'r gwenith Er bod y pincod i gyd yn byw ar hadau, mae pig y rhan fwyaf ohonynt yn amrywio i drin yr hadau y maent yn ei fwyta, ac i ddileu unrhyw ffraeo ynglyn â bwyd.

Yn unol a'r egwyddor hon ceir Salesbury yn gyson yn arfer geirfa hynafol, yn rhoi'r flaenoriaeth i eiriau Lladin eu tras ac yn amrywio'i eirfa, ei ffurfiant a'i gystrawennau hyd eithaf adnoddau'r Gymraeg.

Maent yn trawsnewid o un peth i'r llall, yn amrywio eu llwybrau, a'r cyfan yn symud ar gyflymderau mor anferth fel na ellir byth wybod yn fanwl, er enghraifft, ymhle'n union y mae electron, dyweder, ar ei chylchdro.

Mae'r cyfrwng sy'n cael ei ddefnyddio yn amrywio hefyd megis inc, siarcol a phastel.

Yn nhyb llawer, hwn yw'r mewnwr gorau yn y wlad, ond gorddweud yw hynny: gall amrywio'i chwarae cystal - rhedeg pasio a chicio, ac mai ei gic ef i'r gornel a barodd y trafferth i Gastell Nedd pan sgoriodd Andrew Morgan drydydd cais Llanelli.