Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anabl

anabl

Be' 'tase fe'n anabl...?

Roedd y rali yng Nghaerdydd yn rhoi sylw arbennig i drafferthion pobol anabl wrth geisio cael swydd.

"Dydi adeiladau gwaith yn aml ddim yn addas o gwbwl ar gyfer yr anabl, yn arbennig os ydach chi mewn cadair olwyn," meddai.

Cynigir canhwyllau, arian a botymau i ddelw'r santes tra bo'r anabl a'r claf yn cael eu gwella'n wyrthiol wrth ymdrochi yn y ffynnon.

Rhyw ystum i gyfeiriad moderniaeth yw'r rhain oll, yn ymdeimlo a'r angen am dorri allan a chreu rhywbeth newydd, ac eto'n anabl i wneud hynny.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Hawliau Lles yr Anabl hanes hir o weithgaredd arbnigol ym maes anabledd.

Cyflogi Personau Anabl

(c) Ceisiadau a gweithrediadau amrywiol a ddirprwywyd i'r Prif Swyddog Cynllunio CYFLWYNWYD er gwybodaeth adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio iddo:- (i) Ganiatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais llawn - adeiladu modurdy/ gweithdy preifat Cais llawn - estyniad ochr unllawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad cefn deulawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad unllawr i fwthyn a lleoli tanc nwy Cais llawn (diwygiedig) - estyniad unllawr i dŷ yn cynnwys modurdy Cais llawn - estyniad cefn unllawr i ffermdy Cais llawn - estyniad llawr cyntaf i dŷ i greu darpariaeth ar gyfer person anabl a modurdy newydd.

Mae Arthur, nid yn unig yn hybu'r gwaith er mwyn y deillion, ond hefyd yn arloesi i helpu'r anabl o gorff mewn cyfeiriadau eraill, a chodi calon sawl un isel ysbryd.

Un enghraifft o waith cyfoed yw'r Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cydraddoldeb Anabledd, a ddatblygir ac a gyflwynir gan bobl anabl.

At hyn eglura fod mudiad heb gylchgrawn 'yn fud a diamddiffyn, yn ddiymadferth ac yn gwbl anabl i gerdded rhagddo'.

Yn wyth oed cafodd ddamwain a thorri ei glun, ond ni soniodd am y peth ar y pryd a gadawyd ef yn anabl am weddill ei oes.

"Os 'ych chi'n nodi ar ffurflen gais eich bod chi'n anabl, yna'n aml mae hi'n mynd yn syth i'r bun heb ystyriaeth pellach," meddai.

Yr oll yr ydym ni'n gofyn amdano yw bod cyflogwyr yn rhoi swyddi i bobol yn ôl eu gallu, nid yn ôl y ffaith a ydynt yn anabl ai peidio."

Fodd bynnag, mae'n rhaid i bawb sy'n anabl fod a gwybodaeth arbenigol o fewn eu cyrraedd er mwyn iddynt gymryd rhan ystyrlon mewn cynllunio'u bywydau a'r gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi.

Mae Irving Zola, Americanwr anabl, yn ddarlithydd mewn cymdeithaseg.

pobl anabl yn unig.

Fyddai gennych chi fawr ddim ar ôl." Yn ddiweddar beirniadwyd y llywodraeth yn hallt am geisio mygu mesur oedd wedi ei gyflwyno i'r senedd fyddai'n rhoi mwy o hawliau i bobol anabl.

Hi oedd yn gyfrifol am drefnu rali yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf sy'n rhan o gyfres fydd yn cael eu cynnal trwy Brydain er mwyn rhoi pwysau ar y llywodraeth i sicrhau bod yr anabl yn cael yr un hawliau a phawb arall yn y gymdeithas.

Yn ogystal â dysgu, bu'n helpu gyda sefydlu cynlluniau ar gyfer yr anabl a'r di-waith, ac i greu dolen rhwng artistiaid gartref a thramor.

Yn ddefnyddiwr cadair olwyn, bu'r cyn-athro o Ddwyran, Ynys Môn, yn ddiwaith am gyfnod hir cyn cael swydd - gan weithio o'i gartref - yn trefnu cludiant i bobol anabl eraill sydd heb ddefnydd car.

Mae Deddf yr Anabl 1996 yn sôn am gamwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau cyfleusterau a gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd, ond nid oes rhaid i fusnesau addasu eu hadeiladau yn llawn tan 2004.

Ond fel gweddill pobol anabl yr ynysoedd hyn mae Sian Frost bellach wedi cael llond bol ar driniaeth eilradd.

Is-bwyllgor yr Anabl: Yn ôl eu harfer yr oedd y pwyllgor hwn eto wedi bod yn hynod o weithgar fel y gwelwyd o adroddiad Nancy Lovatt.

Yn raddol, fel mae'r llyfr yn dirwyn yn ei flaen, dengys Hiraethog ei fod yn anabl neu'n anfodlon i wynebu'r byd yr oedd yn byw ynddo.

Wrth ddweud yn negyddol fod y mudiad yng Nghymru yn 'ddiymadferth ac yn gwbl anabl i gerdded rhagddo' heb Yr Ymofynnydd, gellid casglu bod y cylchgrawn, yn ôl ei olygydd, yn gefn a chanllaw sicr i'r Undodiaid, a hynny drwy un o'r cyfnodau mwyaf anodd yn hanes y traddodiad rhyddfrydol, a chrefydda yn gyffredinol.

Mae gwneud defnydd o dechnoleg yn golygu cyfleoedd newydd yn aml i bobl anabl, er enghraifft:

Mae manteision ac anfanteision i'r ddau ddewis, ond mae'r ddau ohonynt yn fathau o gymorth a all fod yn rhan o adnoddau person anabl.

Mae nhw'n ofni y byddai'n costio arian iddyn nhw." Mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno strategaeth newydd y flwyddyn nesaf i helpu digolledu'r anabl ac unrhyw ddarpar gyflogwyr.

Elusennol Hawliau Lles yr Anabl, Cynnal Gofalwyr ac Adran y

(ii) Bod y Prif Swyddog Cynllunio i wneud ymholiadau â'r awdurdodau perthnasol ynglŷn â hawliau'r anabl i barcio ceir yn y sgwâr ar ôl ei bedestrianeiddio.

Gellir edrych ar ddefnydd o gynorthwyon o'r fath un ai fel colli annibyniaeth a symudiad o'r byd abl i amgylchedd anabl, neu fel symudiad o ieuenctid i henoed efo'i holl ddelweddau negyddol.

Roedd C'mon City yn edrych ar stori ysbrydoledig Clwb Caerdydd a sefydlwyd ym 1899 gan Bart Wilson, artist lithograffeg anabl o Fryste.

Nid am ei fod yn anabl i sefyll ar ei sodlau ei hun.

Mae'r gwasanaeth yn un gwerthfawr, yn arbennig i drigolion gwledig sy'n hen neu'n wael ac yn anabl i deithio i'r llyfrgell agosaf.

De minimus non curat lex. Nid estyn y Llywodraeth fys i achub lleiafrif sy mor boliticaidd aneffeithiol, mor druenus ddihelp, mor anabl i'w amddiffyn ei hun ag yw'r lleiafrif Cymraeg yng Nghymru.

Hefyd yn achos deddfau hawliau'r anabl, camwahaniaethu ar sail hil neu ryw, nid deddfau i'r sector cyhoeddus yn unig ydynt.

Daw'r hyfforddiant a phobl anabl at ei gilydd i rannu profiadau.

Mae cynorthwyon technolegol a chymorth personol ill dau yn fathau o gymorth - maen nhw'n rhoi i'r person anabl ffordd wahanol o wneud tasgau trwm sy'n cymryd amser.

Yr oedd y pwyllgor wedi rhannu'r arian rhwng Canolflannau Hamdden Caernarfon a Bangor (er mwyn cael cadeiriau arbennig i'r anabl); Cangen Gwynedd o 'Headway'; Clwb Hŷn Gateway a Chlwb Strôc Ysbyty Gwynedd.