Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anadlu

anadlu

Nhad yn chwilio a chwilio, yna "Lle dudoch chi ma' nghrys i Jini?" Mam yn cymryd pwffiad oddi ar y pwmp oedd ganddi i'w helpu anadlu cyn ateb, "Wel, yn yr 'airing cupboard' Charles".

Roedd y gwely pren isel wedi ei osod yn erbyn y wal fewnol ac roedd gwrthban brown golau yn symud i fyny ac i lawr wrth i'r hen ŵr anadlu'n llafurus odano.

Nid y rhanbarthau'n unig sy'n falch mai Mr Major fydd yno ac nid ei ragflaenydd - mae Ewrop gyfan yn anadlu anadl o ryddhad mai nid hi fydd yno ar ôl ei haraith ddi-gyfaddawd nos Fercher ddiwethaf.

Er bod cyfyngiadau'r offer nofio tanddwr oedd ar gael bryd hynny yn rhwystr i ddatblygiad y pwnc ar y dechrau ffynnodd pan gyflwynwyd offer anadlu cylched agored, yr Aqualung.

Yn y tywyllwch o'u blaenau gallai daeru ei fod yn clywed rhywbeth yn anadlu.

Mae cenhedlaeth newydd o wyddonwyr Cymraeg bellach sy'n ystyried trafod gwyddoniaeth yn Gymraeg mor naturiol ag anadlu.

Cyflwyno'r prawf anadlu i yrwyr ceir a amheuid o fod yn feddw.

Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.

Daw'r nerfau o'r trwyn i fyny drwy'r tyllau bach hyn fel pan fyddwn yn anadlu fe'n galluogir i sawru a gwahaniaethu rhwng gwahanol arogleuon.

Agorodd y drws ffrynt, safodd ar garreg y drws ac anadlu'r awyr iach.

Pan fo dynion yn ymgasglu âi gilydd mae pechod yn anadlu.

Os nac 'ych chi wedi anadlu naws a sawr y glowr yn eich ffroenau chi, os nac ydach chi yn gwybod fel yr oedd yr hen dipiau glo yn chwysu yn yr ha', fedrwch chi ddim sgrit`ennu amdano." Roedd chwaer y dramodydd, Letitia Harcombe, a gymerodd ran y butain, wedi dweud ei hun tod y ddrama' n agos at y gwir a i bod yn gwybod am deuluoedd a oedd mewn sefyllfa debyg.

Roedd yna ryw synau rhyfedd o'i gwmpas bob amser; byddai'n anadlu'n hyglyw, ddrafftiog, yn ogystal â chreu sŵn sipian yn ei fochau, fel petai ar ganol cnoi'n wastadol.

I wneud pethau'n waeth, gwelai hysbysebion teledu lle'r oedd plant Iddewig yn derbyn hyfforddiant ynglyn â sut i ddefnyddio masgiau oedd yn cynnwys pympiau batri i hwyluso'r anadlu.

Roedd y morwyr a rowliai'r casgenni'n anadlu fel ceffylau gwedd pan ddaeth y pentre a'r hofeldai gwyngalchog i'r golwg drachefn.

Rwy'n synnu fod rhai o'r plant hyn yn dal i anadlu.

Mwg ac ager yn chwyrl~o allan o ambell agen yn yr ochrau, a rhyw dawch brwmstanaidd yn gordoi'r holl, gan beri i mi grychu fy nhrwyn wrth anadlu.

Fe'i clywn wrthi'n anadlu ac yn sipian, ac yna, er syndod, dyma'i glywed yn sisial (nid wrthyf i, ond wrtho'i hunan) y sibrydion hyn a gofiaf yn eglur hyd heddiw: .