Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

analluog

analluog

Gyda'r cyflogau mor isel, dim ond dynion a oedd yn analluog i ymgymryd â gwaith arall oherwydd henaint neu lesgedd oedd yn cael eu denu i fod yn athrawon.

Roedd hi'n ymddangos fod yr heddlu'n analluog neu'n anfodlon gwneud unrhyw beth i helpu'r rhai a ddioddefodd.

Nid oedd hi fawr mwy na sgerbwd; yn hollol analluog i weithio, neu hyd yn oed i fyw'n gyfforddus, ac ni ellid gwneud dim i'w helpu.

Fe anghofir yn rhy aml, 'rwy'n credu, fod hunanfeirniadaeth yn rhan o'r gwaith creadigol, a bod un sy'n analluog i wneud hyn yn drwyadl ac yn uniongyrchol yn sicr o fethu fel llenor, ac yn fwy felly fel bardd.