Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anaml

anaml

Anaml iawn y byddai gwragedd yn ysgrifennu amdanynt eu hunain.

Gwaith costus a llafurus yw hyn sydd yn anaml yn cael ei ystyried yn waith celf.

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Nid y Miss Lloyd a gofiwn oedd hi'n awr, er ei bod hi'n dal mor glen ag erioed pan ddeuem ar draws ein gilydd, er mai pur anaml oedd hynny bellach.

Ni wn a oedd gorsaf-feistr yma yr adeg hon, anaml y teithiwn ar hyd y rheilffordd LMS, dim ond rhyw unwaith yn y flwyddyn gyda thrip yr Ysgol Sul i'r Rhyl.

Er iddi hithau ildio i'r demtasiwn, anaml iawn y digwydd hynny.

Hefyd http://www.superfurry.com/ - er mai'n anaml y mae'n cael ei ddiweddaru mae'n safle sy'n edrych yn dda gyda newyddion, adroddiadau am gyngherddau a sgyrsiau.

Anaml iawn yr âi allan o'i blwyf.

Anaml y byddai'r saer coed yn gwneud pâr o olwynion newydd heb y gert neu gambo yn gyfan, er bod eithriadau, mae'n wir.

Anaml iawn mae'r bobol sydd â'r diddordeb gynnyn nhw'n newid 'u plaid.' 'Ia, ella.' 'Ia siwr.

Roedd hyn yn drêt mawr i blant y Cwm oherwydd anaml iawn y doi danteithion fel hyn i'w cyrraedd.

Go anaml y bydd chwaraewyr da yn mentro â'r Frenhines i ganol berw'r frwydr yn gynnar yn y gêm.

Anaml y gwelid ef yn sefyll yn bwyllog yn ei unfan, am y byddai'n gwingo'n barhaus.

Yn anaml iawn y digwydd mwtaniad mewn natur a hefyd yn yr algorithm genetig, ond mae ei bwysigrwydd yn gorwedd yn y siawns o greu cyfuniad o wybodaeth newydd.

Er mai'r set yw'r peth cyntaf a mwyaf hirhoedlog y byddwn yn ei weld o'r ddrama, a'r peth cyntaf sy'n 'dweud' dim wrthym cyn i'r un cymeriad agor ei geg, anaml y bydd yn cael fawr mwy o sylw na hynny.

Aeth y tu allan i'r gwersyll i geisio'i ddiddanwch, ac yn ôl y si (ac anaml iawn y byddai'r 'si' yn ddi- sail), yr oedd mewn helynt dros ei ben a'i glustiau.

Mae 'na gyfarfodydd þ ond sut fedri di fynd iddyn nhw a dy olwg yn rhy sâl i yrru yn y nos?" "Mae hynny'n ddigon gwir." "Fydd rhywun yn galw yma weithia?" "Anaml iawn.

Anaml y bydd disgyblion yn ysgrifennu; gall eu gwaith fod yn gyfyngedig ei amrediad, heb ei drefnu'n dda, yn anghyflawn, yn anniben neu'n fle/ r yn sgîl sillafu gwael a gwallau gramadeg; ychydig a wyddant am ddiben neu gynulleidfa a chyfyngedig yw eu gallu i wella ar eu hymdrechion cyntaf.

Anaml y deuir ar draws mynegiant gan grediniwr iddo ddarganfod cariad maddeuol ac achubol yng Nghrist.

Dim ond yn achlysurol iawn y byddaf i'n gwylio'r Stryd ac anaml y byddaf yn gwylio unrhyw sebon arall.

Ond anaml y clywch chi neb yn son am John Cale - cerddor a chyfansoddwr sy'n fwy adnabyddus yn America nag yng Nghymru.

Erbyn hyn wrth gwrs, a Morfudd wedi bod yn ei bwthyn ers sawl blwyddyn, ac atyniadau llawer mwy pêr wedi cyrraedd y pentref i ddifyrru'r tafodau yn y cyfamser, anaml iawn y byddai unrhyw drafod ar yr hen wraig, yn gyhoeddus o leiaf.

Anaml y bydd disgyblion yn darllen a chul yw amrediad eu darllen; ni fyddant yn darllen yn rhwydd a dealltwriaeth rannol neu ansicr sydd ganddynt o'r hyn a ddarllenant.

Anaml iawn y gwnaiff sgets yn y fan a'r lle; fel yn achos Dorothea, mae'n well ganddo ddychwelyd droeon i'r un man a gadael y gweddill i'r cof a'r dychymyg.

Hoffai weiddi o bennau'r tai, meddai, 'mai anaml y cyferfydd y ddwy ddawn yn yr un person.' Mewn nofel, fel gyda'r stori fer, credai Kate Roberts mai rhywbeth a ofalai amdano'i hun oedd techneg, cyn belled â bod gan yr awdur rywbeth i'w ddweud, er iddi fynnu nad oedd hynny'n caniata/ u blerwch arddull.

Anaml y gwelir pobl yn gorfod prynu sbectol rad yn Woolworth na threulio eu blynyddoedd heb ddannedd.

Anaml y mae'r fath beth yn digwydd ac fe ddywedir gan 'wyr y wasg' bod hynny'n arwydd o fodlonrwydd ac mai dim ond pan geir gwrthwynebiad ac anghytundeb y daw ymateb i bapur newydd gan mwyaf.

Anaml y gwelid amaethwyr y gorffennol yn mynd oddi cartref am ddiwrnod neu ddau, ond erbyn hyn, daeth mynd ar wyliau yn beth cyffredin - ac ambell waith i'r cyfandir.

Dim ond yn anaml iawn y bydd ef yn cael profiad o iaith sydd yn amddifad o synnwyr.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.

Anaml gewch chi gymeradwyaeth mewn cynhadledd newyddion ond rwystordd hynny mo'r lluoedd ufudd yr wythnos dwethaf.

Anaml y byddai ef, arglwydd y plantation, yn ymdrafferthu i fynd gymaint hwyrach ag unwaith yn ystod y flwyddyn i'r golwg.

Ond anaml y deuent mor gynnar â hyn.

Digon anaml y byddai'r arglwyddes Senena ogylch y lle ac yr oedd hi braidd yn ddieithr i'w meibion.