Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aneffeithiol

aneffeithiol

'Roedd trefniadau gweinyddol aneffeithiol neu ddryslyd er ymdrin â cheisiadau cynllunio neu gofnodi ac ystyried gwrthwynebiadau yn broblem mewn rhai o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt.

Aneffeithiol iawn oeddynt yn cyflawni eu dyletswyddau.

Daeth yn amlwg mai digyfeiriad ac aneffeithiol oeddynt yn hel gwybodaeth am yr ail gategori tra ymgymerent â'r ymchwil gyntaf gyda holl frwdfrydedd witch-hunt.

Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.

Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".

Cyfeirir yn y tri Adroddiad at bwysigrwydd gwniadwaith yn addysg y ferch a beirniedir ysgolion am ddysgu'r pwnc yn aneffeithiol.

Ar ôl ei ddwy gôl Sadwrn diwetha aneffeithiol oedd yr ymosodwr o Venezuela, Giovanni Savarese.

Yn sgil y system bresennol, mae'r drefn o fonitro cynlluniau iaith yn aneffeithiol ac yn anymarferol i'w chyflawni, a chanlyniad hyn oll yw fod rhaid cwyno yn barhaus neu fodloni ar wasanaeth anghyflawn ac annigonol yn aml.

Am fod Deddf Iaith 1993 yn gwbl aneffeithiol o ran ateb anghenion y Gymraeg yn y ganrif Newydd.

Mae rhywun, byth a hefyd, yn cyhuddo cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru o fod yn swil ac aneffeithiol pan yw hi'n fater o werthu eu cynnyrch.

Cyhoeddwyd y papur ymgynghorol yn sgîl cwynion bod y system gynllunio yn aneffeithiol er rheoli mân newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth.

De minimus non curat lex. Nid estyn y Llywodraeth fys i achub lleiafrif sy mor boliticaidd aneffeithiol, mor druenus ddihelp, mor anabl i'w amddiffyn ei hun ag yw'r lleiafrif Cymraeg yng Nghymru.