Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aneglur

aneglur

Ar yr un pryd y mae'n bur ochelgar ynglŷn â defnyddio'r gair 'dylanwad'; e.e., ar ôl brawddeg aneglur sy'n awgrymu fod rhaid fod arferion y Trwbadwriaid wedi dylanwadu ar arferion y Gogynfeirdd, 'fel y rhaid bod y naill wedi dylanwadu ar y lleill, neu eu dyfod o ffynhonnell gyffredin i ddechreu', â rhagddo i sgrifennu.

Bron nad yw hi'n atgoffa rhywun o arddull Gwerinos neu Jac-y-Do ond, er hynny, mae llais Rhodri Vine fymryn yn aneglur ar y trac hwn ac efallai mai gormod o gerddoriaeth gefndirol sydd yn gyfrifol am hynny.

Tua'r un amser, ac yn enwedig yn y ganrif ddiwethaf, sylwodd seryddwyr hefyd fod nifer o bethau yn yr awyr nad oeddynt yn ser gan eu bod yn edrych fel smotiau aneglur.

Ym marn y Pwyllgor y mae'r bwriadau yn ddarniog ac yn aneglur.

Mwmiodd y plentyn rywbeth aneglur am beswch neu salwch neu ryw anfadwch ar rywun neu'i gilydd ger rhyw afon.

Eisoes, y mae'r geiriau yn y rhychiau yn duo a mynd yn aneglur iawn i'r darllenydd.

Cyn bo hir, deuai natur yr offeiriadaeth, ac yn y pendraw - wrth iddo weld y gwahaniaeth rhwng rhai o'r eglwysi ymneulltuol a'r eglwysi Catholig yn mynd yn fwyfwy aneglur - natur y weinidogaeth hefyd, yn ganolog i'w athrawiaeth.

Roedd yr arwyddion yn fach ac aneglur yn y tywyllwch.

." Dechreuodd fwmian yn aneglur a phellhau oddi wrthyf unwaith eto.

Bryd hynny mae'n ofynnol i'r gohebydd fod yn arbenigwr ar wneud rhyw fath o jig-so, ac yn bwysicach fyth ei fod yn cael blas ar osod ambell ffaith yma a thraw mewn darlun aneglur cyn bod y darnau i gyd yn disgyn i'w lle yn y cynadleddau terfynol i'r wasg.

Ac y mae yr adwaith o hyd yn newid, y berthynas rhwng un uned a'r llall yn cael ei lleihau neu agosa/ u, ac mae'r finiau rhwng unedau yn aml yn aneglur ac yn symudol.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.