Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anesmwyth

anesmwyth

Gyrfa anesmwyth a gafodd Edmund Griffith.

Eithr nid ym Mhwllheli yn unig y bu anniddigrwydd; daeth yn glir fod eraill, yn gysylltiedig ag uchel-lysoedd y Brifwyl, yn teimlo'n anesmwyth iawn oherwydd swm yr arian ychwanegol a dalwyd i'r Ysgrifennydd Cyffredinol.

Yr oedd y profiad newydd hwn yn llawenhau'i ysbryd, a'i synnu, braidd, gan mor anesmwyth oedd hynt y llongau yn nygyfor y tonnau a oedd dipyn yn fwy ymchwyddol na neithiwr.

Roeddwn i'n teimlo'n fwy anesmwyth fyth erbyn hyn.

Serch hynny, yn anesmwyth y gorweddodd mantell serennog yr actores ffilmiau ar ei hysgwyddau erioed ac roedd hi'n sôn am droi at yrfa fel gweithwraig gymdeithasol neu rywbeth tebyg hyd yn oed ar anterth ei phoblogrwydd masnachol.

Ond wedi rhai munudau o dawedogrwydd a golwg anesmwyth ar y ddau, ceisiodd Dilys ymesgusodi am ei hymarweddiad.

Ac yn wyneb yr hyn a ddywedwyd gynnau, mae angen esbonio pam yr oeddem ni, aelodau Adain Chwith y Blaid megis, yn anesmwyth am y polisi - neu'n gywirach, am y mynegiant arferol ar y polisi: teimlo'r oeddem fod y mynegiant hwnnw'n gwneud cam â hanfod y polisi.

"Am dy fod mor anesmwyth, mae popeth o dy gylch di yn dlawd."

Roedd ambell un yn anesmwyth ac yn dyrnu'r drws a gweiddi, '...' .

Yr oedd yr helgwn, a gadwyd heb damaid o fwyd ar hyd y Saboth, yn anesmwyth am gael cychwyn i'r helfa, a theimla Harri yn bryderus pa ffigur a dorrai efe yn ystod y dydd.

Clymwyd garddyrnau Dai Mandri a rhaffwyd ef wrth y camel olaf yn y rhes ac i ffwrdd â nhw ar frys, y camelod yn trotian a Dai hefyd yn gorfod tuthio yn anesmwyth tu ôl iddynt.

Teimlais yn anesmwyth iawn.

O ganlyniad yr oedd arweinwyr crefydd yn teimlo'n anesmwyth.

Yna allan ag ef i archwilio'r dref a'i hadnoddau, a synnu bod glan y mor mor atyniadol, bod y machlud mor ysblennydd, a'r tonnau bychain, anesmwyth yn sibrwd yn rhamantus wrtho.

Holwn fy rhieni o hyd ac o hyd a phigwn eu cof gan eu gwneud yn anesmwyth ar brydiau.