Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anesmwythyd

anesmwythyd

Deng niwrnod i'r dydd fe deimlais anesmwythyd yn ochr dde fy nghefn, a'r noson honno fe'm dihunwyd yn sydyn gan frathiad o boen yn ochr fewnol fy morddwyd.

Roedd yr holl beth yn creu anesmwythyd ynddo i.

Y mae ymgyrch y Gymdeithas yn erbyn gorthrwm Saesneg y llysoedd cyfraith a holl gyndynrwydd y barnwyr a'r plismyn i gadw braint a rhagoriaeth iaith y Ddeddf Uno yn deffro anesmwythyd ar feinciau ynadon.

Bu anesmwythyd yn y tir.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Un dawedog oedd hi, merch o'r bryniau yn deall dim ar anesmwythyd diddiwedd y môr, wedi taro ar longwr a'i briodi wrth ddod i lan y môr ar wyliau, ac wedi gorfod byw hebddo am y rhan fwyaf o'i bywyd priodasol.

Roedd o'n llawer gwell ond roedd yr hen anesmwythyd yn dal yn y cefndir yn rhywle.

Yn ddi-ddadl 'roedd cryn anesmwythyd ymhlith y gweithwyr brodorol yn Sylhet yr adeg yma.

Diau fod yn hyn awgrym o'r anesmwythyd cyfoes fod twrnameintiau, wrth dyfu'n achlysuron cymdeithasol arddangosiadol, yn colli peth o'r budd a ddeilliai

Sawra 'Middleton Murry a Chrefydd' yn gryf o'r pendantrwydd cenhadol a gyfyd o anesmwythyd, pan fo gŵr yn

Mae Enid yn syrffedu ar y bywyd hwn - 'nid oes dim gasach gennyf na hynny', meddai - ond ni allai gyfaddef hynny i Geraint ac ni all ychwaith adrodd iddo anesmwythyd a beirniadaeth ei wŷr.