Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anffodus

anffodus

Yn anffodus, fodd bynnag, rwy'n cael yr argraff nad yw'r rhan fwyaf yn fodlon rhoi cyfle i grwp hip hop fel y Tystion ac ni allaf ond gobeithio y bydd agwedd o'r fath yn newid cyn bo hir.

Rhain, yn anffodus, yw'r dosbarth sy'n cael eu gorfodi i gael benthyciadau gan y siarcs yn y strydoedd cefn.

Yn anffodus, y ffasiwn erbyn hyn yw dymuno'n dda dros y ffôn.

Wedi dweud hynny, yn anffodus, daeth amryw o achosion o gam ddefnyddio i'r amlwg.

Yn anffodus, oherwydd galwadau eraill ni fu'n bosibl i Ms.

Yn anffodus, nid oes gennym fuchedd i Santes Dwynwen.

Prin y derfydd gyda'r genhedlaeth hon y chwerwedd sydd wedi deillio o'r fath fwnglera anffodus'.

Bwyd i Bosnia: Bu'r plant yn brysur yn casglu bwyd i blant anffodus Bosnia fel Ymgyrch Dalgylchol i helpu'r trueiniaid hyn.

Yn union fel mae peilotiaid yn ofni sôn am ddamweiniau, mae modurwyr hefyd yn amharod i grybwyll digwyddiadau anffodus cyn cychwyn ar daith.

Yn anffodus, mae fy nghyfenw wedi'i newid!

Ond yn anffodus wrth gwrs, nid cynt o'n i wedi dechre cymryd diddordeb ac mi welais i fod y Bryndir wedi ymwagio.

Yn anffodus bun rhaid i Geraint Roberts ai Fand ohirio ei ymddangosiad yn yr Wyl eleni ac ar fyr rybudd daeth Bedwyr Hughes i'r adwy.

Yn anffodus, mae pethau'n medru mynd allan o reolaeth.

Yn anffodus roedd wedi cloi ond gan fy mod yn mynd i lawr allt tynnais yr allwedd o'r 'ignition' i'w agor.

Yn anffodus mae Gang Bangor ar wyliau am ryw hyd felly ni fydd yna sengl yn cael ei dewis ar gyfer yr wythnos yma, ond mi rydan ni'n awgrymu eps newydd Topper ac Epitaff i chi ar gyfer yr wythnos yma.

Yn anffodus nid oedd yr operasiwn honno'n gwbl lwyddiannus chwaith ac 'roedd y dwythell yn dal i gau o bryd i'w gilydd, gan achosi cholangitis rhwystrol.

'Roedden ni'n anffodus i fod ar ôl ar hanner amser.

"Rydw i wedi gwneud peth tebyg o'r blaen." Ond yn anffodus, gwnaeth gamgymeriad.

Y llongau rhyfel yn tanio eu gynnau er cof am y rhai anffodus a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel.

Yn anffodus, er imi geisio tynnu sylw'r awdurdodau priodol at bwysigrwydd Tre'r Ceirij nid oes yr un arwydd i'w weld hyd heddiw i egluro gwerth y pentref i'r genedl nac ychwaith gynnig wedi'i wneud i rwystro'r fandaliaeth o daflu rhai o'r cerrig o'r amddiffynfa dros y dibyn!

I fod yn bersonol, pan euthum i Fangor i'r Coleg am y tro cyntaf, fy awydd mawr oedd astudio athroniaeth ond yn anffodus - erbyn hyn - deuthum ar ben y rhestr mewn Cymraeg yng nghwmni Idris Foster a Jarman a pherswadiwyd fi i 'gymryd' Cymraeg.

Yn anffodus nid yw dy waedd yn atal y fwyell rhag disgyn, ond yr oedd yn ddigon i wyro ergyd y cigydd.

Yn anffodus cafwyd peth trafferthion mewn perthynas â'r trosglwyddiad a gwaethygwyd y sefyllfa oherwydd fod yr Uned ar fin symud i adeilad o'r newydd yng Nglandon.

Ac ni fedrwn sefyll ym mhulpud Bwlchderwin heddiw, a pheidio â meddwl, pe gwelwn wraig hyn na'r cyffredin yn y gynulleidfa, "Oedd 'nacw'n un ohonyn NHW tybed ?" Wrth edrych yn ôl trwy niwl y blynyddoedd, nid bara a gwin Y Cymun hwnnw, yn anffodus, sydd wedi aros, ond trwyn arswydus y Parch.

'Mae'r anaf i Jason Smith yn anffodus ofnadwy.

Ond o fy mhrofiad anffodus i o feddygon ac ysbytai does a wnelo lliw eu croen fawr ddim ag anallu rhai meddygon i gyfathrebu a defnyddio gair yr adroddiadau diweddar.

Yn anffodus, roedd pob un o'r banciau a chymdeithasau adeiladu (ag eithrio'r NatWest) wedi gwrthod gwneud hyn, er i'r Gell eu rhybuddio nhw rhyw chwe mis yn ôl, ac er i Gell Caerdydd ymgyrchu yn eu herbyn ers amser.

Yn ôl Rhodri Morgan mi roedd hyn yn anarferol ac yn anffodus" ac nad oedd yn gwneud y gwaith o ddelio â"u cais yn ddim haws.

Yn anffodus, er na fedrir gwadu na allai Dafydd ap Gwilym fod yn ddyledus i gorff o farddoniaeth werinaidd, nid yw'r fath gorff wedi ei gadw, tra cedwir corff o ganu cyfandirol yn ieithoedd Profens, Gogledd Ffrainc, yr Almaen, etc., sy'n cyfeirio at un ffynhonnell bosibl i'r dylanwadau a fu'n gweithio ar y bardd Cymraeg.

Yn anffodus mae nifer y Boda Tinwen yng Nghymru wedi lleihau dros y degawd diwethaf ac y mae'r gwaith a wneir gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Cyngor Gwarchod Natur, yn chwilio am y rhesymau dros hyn.

Yn anffodus, mae tegeirian y gwenyn yn fwy cartrefol yn Ne Ewrop a ger Môr y Canoldir nag yng Nghymru; ceir yno ddigon o'r gwenyn sy'n addas i'w beillio.

Yn anffodus collodd ei lygad wrth weithio yn y chwarel, a bu raid newid ei ffordd o ennill ei gyflog.

Yn anffodus mae angen mwy na lwc ar amddiffyn Wrecsam.

Cadarnhawyd yr argraff anffodus hon gan angen dyn am antur a'i gywreinrwydd; byddai hyn yn beth clodwiw mewn cyswllt arall ond mewn cymdeithas a reolir gan y teledu cyflwynwyd archaeoleg môr fel cangen o ffuglen ramantaidd.

Yn anffodus, doedd y nwyddau a gyrhaeddai o wledydd comiwnyddol y Dwyrain ddim o'r safon gorau bob amser.

'Roedd y gêm yn erbyn Llanelli ychydig bach yn anffodus - o'dd y ddau dîm yn eitha gwan.

Yr oeddwn wedi gobeithio cyflwyno'r adroddiad i'r cyfarfod hwn ond yn anffodus y mae'r Adran yn cael trafferthion gyda chael mynediad i bas data NOMIS, sef rhaglen meddalwedd "byw% sydd yn dal y wybodaeth.

Yn anffodus does unman i'w roi ond tu allan ac felly ni fydd e'n para yn hir er ei fod yn newydd ar y funud.

Yn anffodus, ni cheir yr ewyllys hwnnw gan bob swyddog, nac ar bob achlysur o bell ffordd.

Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben.

Ac yn anffodus bob wythnos mae papur newydd Undeb Cenedlaethol y Gohebwyr yn cario hanesion newyddiadurwyr drwy'r byd sy'n cael eu harteithio, eu carcharu a'u lladd.

A chyda llaw, digwydd cam-brint anffodus ar d.

Ac, yn anffodus, yr oedd peth wmbredd o bobl yn llawenhau yn eu hail-ddyfodiad, ac nid yn unig yn llawenhau ond yn lledaenu'r pla yn ogystal.

Yn anffodus, nid oedd y gyrrwr yn hoff o'n cerddoriaeth ni.

Yn anffodus, os oes pellter rhy faith rhwng y trawsyrrydd a'r derbynnydd yn y rhwydwaith ffôn collir gormod o oleuni ar hyd y ffibr ac aiff y neges ar goll.

Yn anffodus daeth gwr cynta Mrs Mac, Charlie, gyda Kirstie.

Ac 'roedd ei gymharu ag Euros Bowen yn arbennig o anffodus, gan na ellir meddwl am ddau fardd mor gwbwl wahanol i'w gilydd ym mhob dim.

Yn anffodus, un penwythnos, buodd y cwbwl bron â throi'n sur arnon ni.

Yn anffodus nid eglurwyd hyn i'r gard Koreaidd, ac wedi methu cael dim ond un ffiol o'r cyffur ar y farchnad ddu, fe'i chwistrellodd ei hun â chynnwys honno.

Yna ymhen dipyn fe gei di ddringo i ran uchaf un o'r mastiau er mwyn edrych allan am dy ffrind." Yn anffodus, doedd yr un awyren ar gael.

Yn anffodus, er eu pwysigrwydd ac er eu llwyddiant, prin yw nifer yr ysgolion Cymraeg cydnabyddedig, ac afraid yw sôn am sefydliadau Cymraeg yn y sector addysg uwch.

Yn anffodus, oherwydd blerwch y trefniadau, chawson ni ddim cyfle i'w ffilmio.

Yn anffodus, nid yw'r fath sicrwydd am destun y Gododdin i'w gael, ac fe allai'r cyfeiriad at Arthur fod wedi ei wthio i mewn iddo yn ddiweddarach.

Yn anffodus, ysywaeth, pallodd y brwdfrydedd ac erbyn heddiw ychydig o ddiddordeb geir mewn aredig yn y mudiad.

Mae'n anffodus i losgi'r pren gwyrdd a bydd marwolaeth yn sicr o ddilyn os gwneir hyn.

Yn anffodus, oherwydd y problemau mewnol sy ganddyn nhw yn Samoa maen nhw wedi dod a thîm sy'n ddierth i ni.

Yn anffodus, mae'r agwedd benagored yn swnio'n betrusgar ansicr, ac yn debyg o gael ei beirniadu oherwydd ei hanwadalwch.

Yn anffodus, yr oedd y siarad wedi darfod erbyn hyn.

Yn anffodus, ar yr adeg pan oedd angen casglu'r wybodaeth yma yn y Swdan, nid oedd yr offer technolegol ar gael ar gyfer ein hanghenion.

Yn anffodus o safbwynt yr ast a'i pherchennog roedd Cadwgan, mab bychan y ty, wedi cael chwisl din gan Santa Clos.

Yn anffodus, fodd bynnag, er bod dulliau rhagolygu tymor byr wedi gwella gryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y mae elfen o ansicrwydd yn perthyn i unrhyw ragolwg economaidd.

Dafydd fab y Tywysog ag Isabel, merch yr anffodus Wiliam de Breos a grogwyd ym Maenor Crogen.

Yn anffodus, yfai ei gwr ddiodydd meddwol ac ni faliai ddim am gyfrifoldeb magu teulu.

Yn anffodus, mae gwneud copi%au o'r holl ffilm a dynnwyd wrth weithio broject allanol yn ychwanegu'n fawr at gost.

Yn anffodus, mae ambell un yn...

Mae puteindra rheolaidd yn anghyffredin a hefyd anffyddlondeb priodasol; ond colli diweirdeb cyn priodi (yn anffodus, gwarth y Dywysogaeth) yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.

Peth hawdd yw doethinebu wrth edrych yn ôl ond anffodus, hwyrach, oedd y pennawd a ddewisodd Y Cymro roi ar ei adroddiad fod y Pwyllgor Gwaith am gyfarfod i 'rannu'r ysbail'.

Yn anffodus, mae posibilrwydd i rai o'r gwartheg fod wedi eu prynu oedd eisoes wedi eu trin gyda hormonau, felly mae gwaith ymchwil a gymer gryn amser i'w wneud fel y gellid dwyn y rhai euog i gyfraith.

'Alla i ddim credu y byddwn ni mor anffodus â hynny.

Yr oedd y llong yma yn gollwng dwr ac yn anffodus rhedodd i'r lan a bu'n rhaid cael gwaelod newydd iddi.

Yn anffodus nid oedd y mêt wedi gofalu bod y gwenith oedd yn llwyth y llong y fordaith gynt wedi cael ei lanhau o gwmpas agoriad i'r pwmp, a phan geisiwyd pwmpio'r dwr allan nid oedd yn gweithio fel bod y llong yn llenwi â dwr.

Yn anffodus doedd y dyfarnwr ddim o'r un farn bod y bêl i gyd wedi croesi'r llinell.

Hwyrach fod yna well ffyrdd o fynegi'r uchod ond, yn anffodus, er mor ddeniadol y mae'r 'Drydedd Theori' yn swnio mewn crynodeb, yr un yw arddull gweddill 'Y Llyfr Gwyrdd'.

Ond gwelai Rhian nad oedd ei geiriau'n ei gysuro, ac roedd yn anffodus iawn ei fod o wedi cael cyfle i hel meddyliau dros y Sul.

Dydy Norwy ddim y tîm mwyaf creadigol - maen nhw chwarae fel Wimbledon - Route 1! Mae blaenwyr tal gyda nhw ond yn anffodus dim chwaraewyr creadigol.

Yn anffodus 'roedd y ddau yn ei thwyllo.

yn anffodus doedd teresa ddim i mewn.

Yn anffodus tarodd law un o'r dynion.

Wnaeth hi ddim petruso o gwbl ac am fod ganddi gar gofynnais iddi alw am Mrs West a Mrs Dixon hefyd Ffonio Mrs Dixon i adael iddi wybod am y trefniadau a hithau; chwarae teg iddi, yn ymddiheuro am y tro anffodus wythnos i heddiw.

Yn anffodus fe gollodd Morgannwg yn erbyn Indiar Gorllewin yng Nghaerdydd ddoe - dyw hynna ddim yn mynd i fod yn beth da iddyn nhw.

Mae'n ddatblygiad i'w groesawu, yn cadw pobl anffodus allan o grafangau'r siarcs, yn cadw'r arian o fewn y gymuned ac yn sicrhau llogau teg ar y ddwy ochr.

Yn anffodus nid oes gan BT ddewis yn hyn o beth gan fod rheidrwydd cyfreithiol arnom i warantu gwedduster cynnwys unrhyw negeseuon yr ydym yn eu cludo ar ein rhwydweithi.

Yn anffodus, ni wnaeth Dafydd y defnydd gorau o'i dalentau, ond mae'n bur sicr ei fod wedi helpu Daniel i gael tipyn o addysg gartref fel yr helpodd Bob Lewis ei frawd Rhys.

Yn anffodus, roedden nhw yn rhy hwyr i groesi yn Hendaye y noson honno gan fod y pyrth yn cau am naw.

Aelwyd oedd hi, yn anffodus, lle credid bod Dr John Williams, Brynsiencyn a Dr Thomas Charles Williams yn wŷr perffaith.

Yn anffodus, nid wyf yn cofio cael y profiad o weld seren wib ond byddwn yn dychmygu, er mor fyrhoedlog y profiad, y byddai'n gadael ei ôl arnaf.

Yn anffodus does na ddim sylw yn cael ei roi yr wythnos hon gan ein bod ni'n darlledu yn y boreau rhwng 0820 a 0930 a peiriant syn gyfrifol am ddewis y caneuon.

Ac fe fu ei hanesydd yn ddigon angharedig i adrodd hanes un o'i orchestion anffodus.

Ond yn anffodus, mae ffermwyr Sweden yn bobl ffyrnig.

Yn anffodus trawyd Mrs Jenkins yn wael iawn y nos cyn ei angladd ac aethpwyd â hi i Ysbyty Tywysoges Cymru.

Yn anffodus, dyna yw perspectif sawl gohebydd a sefydliad newyddiadurol o bwys.

Yn anffodus, mae un gêm - honno ar Heol Farrar rhwng Bangor a Chaerfyrddin - wedi ei gohirio oherwydd y tywydd gwlyb.

Cwrdd â'r FSO heddiw a hynny dan amgylchiadau anffodus.

Roedd wedi colli ei lyfr nodiadau ac yn anffodus doedd o ddim wedi dysgu'r rhesymau ar ei gof.

Yn anffodus crwydrodd ei lygad i gyfeiriad bwrdd crwn a diflannodd y gwynt i gyd o'i hwyliau - roedd Laura Elin o'r Felin wedi hulio brecwast i dri.

Anffodus a dweud y lleiaf fyddai peidio â'i ddarllen ac yna canfod i ni wneud camgymeriad o'r mwyaf.

Un awgrym yw y gellid bedyddior plentyn anffodus yn Loton oherwydd bod ei dad.

Yn anffodus, mae ochr llawer mwy trist a pheryglus i ddefnydd dynoliaeth o'r môr.

Yr oedd hwn i fod yr un mor safonol a'i Synopsis ar fathemateg, ond yn anffodus bu farw cyn iddo ei orffen ac aeth y llawysgrif ar goll.

Y mae'n hen bryd ehangu gorwelion, yn enwedig am fod yr unig hanesydd o Gymro sydd wedi gosod ein mudiad iaith mewn cyd-destun Ewropeaidd, y Dr Tim Williams, yn anffodus yn gorsymleiddio y sefyllfa gyfandirol.