Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anffyddiaeth

anffyddiaeth

Ar y naill law yr oedd yn pleidio diffiniad a phendantrwydd, ond eto'n croesawu llenyddiaeth a seiliwyd ar Gristnogaeth uniongred neu anffyddiaeth filwriaethus.

Buont yn ddoeth a chraff yn ymgodymu ag anffyddiaeth glaslanciau (a chyda llaw roedd y dosbarthiadau i hogiau ac i enethod ar wahân) a buont yn gyfrwng ill dau i ehangu gorwelion drwy sôn am y byd mawr oddi allan.

Prifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd startslyd wedi bod yn fy 'sgidiau i, ag anffyddiaeth yn f'ysu ac anghrediniaeth yn fy llethu!

A pherarogl bywyd i fywyd fu eu dylanwad arnaf yn fy mrwydr yn erbyn anffyddiaeth derfynol.

Dewisodd ef ochri gyda 'dogma a sagrafen a deffiniad mewn crefydd' (er nad oedd eto wedi ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig), ond parchai hefyd y rheini a arddelai anffyddiaeth rhonc - sef dogma anghrefydd.