Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anfoesol

anfoesol

Gan fod offeiriad Aberdâr wedi ymosod yn benodol ar Ymneilltuaeth, gan honni mai hynny, ynghyd â chryfder yr iaith Gymraeg oedd i gyfrif bod bywyd y dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd diwydiannol yn isel ac anfoesol, yr oedd y dadleuon yn gorgyffwrdd â'i gilydd, a Ieuan Gwynedd yn ymddangos fel amddiffynnydd 'gwir Gymreictod'.

Mae cuddio rhan o brofiad yn anonestrwydd, ac felly'n anfoesol.

Nawr dwy i ddim am i chi gredu'i bod hi'n anfoesol mewn unrhyw ffordd - ond roedd hi'n bropor, boblogedd, a digon o fechgyn yn y pentre fydde'n barod 'i phriodi hi.

Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.

Fe'i condemniodd hi am ei bod yn gogoneddu hunanleiddiaid, ac oherwydd ei bod yn anfoesol, yn enwedig y darn am y butain.

Mae troi pethau o'r fath yn adloniant ac yn ddifyrrwch yn anfoesol.