Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

angel

angel

Yn wir, y tu allan i'r cylch teuluol roedd iddi enw o fod yn ferch ddelfrydol, bob amser yn gwenu ac yn barod i sgwrsio â phawb; ond amheuai Mali fod ynddi fwy nag ychydig o elfen yr angel pen-ffordd.

Gobeithio y bydd Mrs Alun Williams a Mr Andrew Angel yn hapus dros eu cyfnod ymarfer dysgu.

Ar garreg arall, mewn llythrennau cyhyrog, sgwâr, roedd brawddeg syml wedi'i cherfio uwch bedd y bardd Kazys Boruta: `Ewyllys yr awel rydd a chwyrli%o'r goedwig las.' Ymlaen heibio tro yn y llwybr ac roedd cerflun o angel fel petai ar fin codi oddi ar ymyl dibyn.

Eisoes mae dau sesiwn wedi eu cynnal gyda Melys, Zabrinsky, Evans, Tystion, Cint, Something Personal, Angel a mwy a mi fydd dwy noson arall yn y gyfres yn cael eu cynnal cyn hir.

Dilynodd The Man Who Jumped to Earth yr anturiaethwr 61 mlwydd oed Eric Jones o Dremadog i Venezuela wrth iddo wireddu breuddwyd oes i neidio o Raeadrau Angel sy'n 3,212tr o uchder.

Dewisodd y coch a hefyd prynodd focs o siocled ac angel plastig.

Suddodd Miguel Angel Martin ergyd anhygoel o ddeugain troedfedd ar y lawnt ola i fynd a'r gêm i dyllau ychwanegol yn erbyn David Frost.

Roedd Ernie Els a Miguel Angel Jimenez yn gyd-radd ail.

Ymhlith y grwpiau fydd yn cystadlu mae Estella, Evans, Zabrinsky, Texas Radio Band, Bob George, Something Personal, Cint, Angel, Alcatraz a lot mwy.

Bydd y pedair prif blaid wleidyddol yn cael eu cynrychioli mewn cyfarfod cyhoeddus drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd, Nos Fawrth Mai 16eg am 7.30.

Bu ef, wrth gwrs, ar ochr angel Talsarn yn y frwydr fawr yn erbyn Uchel- Galfiniaeth.

AM FOD SETH YN ANGEL

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

Soniwyd eisoes am N Cynhafal Jones yn ymuno â bwrdd teilwriaid Angel Jones yn ddyn llawn awch am farddoniaeth a barddoni, fel y soniwyd hefyd am gyfarfodydd cystadleuol Bethesda.

'Mi fuasech chi'n meddwl 'i bod hi'n angel, myn dian i, o'i gweld hi yn y llys,' meddai.

Am Fod Seth yn Angel gan Aled Islwyn.

Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel Caerdydd nos Fawrth Mai 16eg - cyfarfod i lansio deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd, deddf a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg - fe gafwyd cefnogaeth gref gan Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, a Christine Humphreys ar ran y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Yr oedd yn Arberth, o flaen Gwesty'r Angel, gyda Linda ei wraig.

Rhoes Waldo deyrnged i'w dad yn 'Y Tangnefeddwyr' Mae Gwirionedd gyda 'nhad meddai yn y pennill olaf, ac yn y trydydd, Angel y cartrefi tlawd Rhoes i 'nhad y ddeuberl drud : Cennad dyn yw bod yn frawd, Golud Duw yw'r awel fyd.

Eleni, mae clamp o goeden yn sefyll yn browd yn ein lolfa da Santa yn ei choroni yn hytrach na'r angel arferol.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.

Mewn breuddwyd cafodd y ddau ddiod gan angel ac fe drowyd Maelon yn lwmp o rew.Cafodd Dwynwen dri dymuniad gan yr angel, a'r cyntaf oedd i Faelon gael ei ddadmer.

Ni fedraf ddiolch yn ormodol i Cassie Davies, oherwydd bu hi fel angel gwarcheidiol drosof yn yr holl gynlluniau.

Dangosodd y llwyddiant ym maes rhaglenni dogfen ffeithiol y cysylltiad rhwng rhaglenni rhwydwaith a'r rhai a gomisiynwyd yng Nghymru i Gymru; rhaglenni megis The Man Who Jumped to Earth - stori anhygoel Eric Jones o Dremadog ac yntau'n 61 mlwydd oed a chanddo'r freuddwyd o neidio oddi ar Raeadrau Angel yn Venezuela sy'n 3,212tr o uchder.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyhoeddus 'Blwyddyn o Gynulliad' yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd am 7.30 Nos Fawrth, Mai 16eg.

Sgôr Woods oedd 65 - chwe ergyd yn well nar safon ac un yn well na Miguel Angel Jimenez.

Defnyddiodd Sony Stiwdio Radio 1 yng Nghaerdydd i recordio llais Charlotte Church ar gyfer y CD platinwm Voice of an Angel.

Bydd yno lu o grwpiau yn cynnwys Estella, Zabrinsky, Texas Radio Band, Something Personal, Cint, Angel, Alcatraz a lot mwy.