Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghysonderau

anghysonderau

Ac y mae angen mynd trwy'r teipysgrif gyda chrib mân i ddileu llithriadau teipio a chystrawen ac amrywiol anghysonderau mewn sillafu.

Er mor rhesymegol yw'r awdur (neu oherwydd ei resymolder) mae'r llyfr hwn yn frith o anghysonderau bwriadol.

Y mae cwestiynau'n codi yma ac acw oherwydd mân anghysonderau mewn orgraff a sillafu.

Bydd Chesterfield, sydd ar frig y drydedd adran ar hyn o bryd, yn apelio yn erbyn y penderfyniad i dynnu naw pwynt oddi arnyn nhw, oherwydd anghysonderau ariannol o fewn y clwb.

Ond nid yn llym y dywedir hynny: mae'r awdur fel petai'n cydnabod anghysonderau'n bywyd ni y tro hwn ac yn cael gras i'w croesawu a'u troi'n ddefnydd celfyddyd.