Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghytuno

anghytuno

Doedd - - ddim yn anghytuno â hyn.

Ond mi fentraf anghytuno ag RT Jenkins ar un peth go bwysig, sef yr oed a rydd i'n cenedlaetholdeb diwylliadol.

Nid wyf am anghytuno ag ef, gan nad yw'r cwestiwn a ydyw casgliad o weithiau'n ffurfio llenyddiaeth neu beidio yn un ystyrlon i mi.

Ddaru Ifan eriod gytuno a neb yn ddistaw, nac anghytuno a neb heb dwrw.

Gwrthwynebydd arall yw'r Cynghorydd Rhys Sinnett sy'n poeni am gamddefnydd o arian y cyhoedd ac yn anghytuno â barn Lyn Davies bod unrhyw gyhoeddusrwydd i Sir Benfro (boed dda neu ddrwg) i'w groesawu.

Er angen egluro'r cyfeiriadau ynddynt, nid cerddi amwys mohonynt a phrin y gellir anghytuno ynghylch eu cynnwys.

Yr oedd y wasg wedi dechrau brygawthan am 'rwyg' yn y Blaid, ac ateb y Gynhadledd oedd - unfrydedd tros bolisi cydnabyddedig y Blaid."' Nid oedd unfrydedd llwyr, a bod yn fanwl; ond mae'n debyg fod y rhai a oedd yn anghytuno â'r penderfyniad a basiwyd wedi cilio heb bleidleisio ar y cynnig, ar ôl i'r gwelliant a gynigiwyd ganddynt fethu.

"Da i ddim i mewn ar ôl y llarbad brwnt am bensiwn," meddai Picsi'n onest, a wnaeth neb arall anghytuno.

Mewn dau le, serch hynny, y mae'r Athro'n anghytuno a'r ffordd y'i dehonglwn i hi, a gobeithiaf na pheidiaf a chyfleu fy ngwerthfawrogiad o'r gwasanaeth hollol wych a wnaeth ef wrth ddadlennu arbenigrwydd Elphin, os gor-sylwaf ar y rheini.

Ond mae yna anghytuno ymhlith ffermwyr wrth i nifer leisio eu barn fod y dip OP yn beryg i iechyd y ffermwyr.

Os am gytuno neu anghytuno a'n beirniaid anfonwch i ddweud.

Bu llawer o ddadlau ynghylch ystyr awdl Hedd Wyn, a llawer o anghytuno.

Fel y gwyddys, gadawodd Bebb y Blaid oherwydd iddo anghytuno â'i Niwtraliaeth - safbwynt tra gwahanol i eiddo ei feistr 'athrylithgar', Charles Maurras, a ddarganfu ei fod yn casa/ u Iddewon, Bolsieficiaeth a Democratiaeth yn fwy, hyd yn oed, nag y casâi'r Almaen.

Gallai osgoi gorfod eu bwyta nhw trwy bledio'u bod yn anghytuno ag ef, a gallai gadw allan o bob cegin a phob gardd fel nad oedd raid iddo eu gweld.

Wyddai neb am y berthynas hon ond Nansi'r Nant.' Gwnaed honiadau mwy rhyfeddol fyth yn yr ysgrif honno, ac fe sbardunwyd John Gwilym Jones, am yr unig dro yn ei fywyd, meddai, i ysgrifennu i'r wasg i anghytuno.

Er nad oedd yn anghytuno â hyn, adroddodd y Prif Weithredwr bod angen cadw llawer o'r gwybodaeth yn gyfrinachol rhag amharu ar y cais grant y Cwmni i'r Swyddfa Gymreig.