Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

angladd

angladd

Hen lanc yw e, ond ma fe'n gweld popeth, ac fe alwodd arna i noson yr angladd, pan own i ar fin mynd draw i gydymdeimlo a Luned, a gweud y gwir.

Wi'n dweud hyn am 'i bod hi wedi gofyn i ti helpu gyda threfniade'r angladd - a chan fod rheiny nawr ar ben, fydd gen ti ddim esgus dros alw'n rhy amal yn Maenarthur.'

Wedi'r gwasanaeth, aeth yr angladd i fynwent Eglwys Llansadwrn a rhoed y fam i orffwys yn y bedd cleilyd.

Daeth y gweinidog, brynhawn yr angladd, i'r parlwr cyn codi'r corff, a darllen pennod o'r Beibl darluniadol â'r clasbiau aur.

yn yr un flwyddyn gwelwyd angladd syr w.

Dangosiad o'r parch hyn ddydd ei angladd, y cynta' i gyrraedd yn y bore oedd Segundo Pena yn ei ddillad gora.

Cafodd wobr y Cyflwynydd Gorau am ei ddarllediad o angladd Diana, Tywysoges Cymru; Dewi hefyd oedd Newyddiadurwr Cymreig y Flwyddyn yng ngwobrau BT ym 1998.

Er iddi, meddai, ei gynghori i fynd i'r angladd yn groes i'w ewyllys, rhag i neb ei amau, ac addo dal dano, aethai at yr Uwch-arolygydd Prothero yn unswydd i'w fradychu.

Roedd torf fawr yn ei angladd.

Ond roedd hi'n edrych yn lled dda pan es i draw i'w gweld hi noson yr angladd.

Ceir disgrifiad o'i angladd gan Watcyn Wyn.

Mae hi'n aros gyda Doctor Wills a'i howsciper nawr ers angladd 'i gŵr.

Yna rhedasom i'r tŷ a'n hanadl yn ein gyddfau i ddweud "Mae'r dynion wedi dod â'r elor i moyn yr angladd!" Yr oeddwn wedi dychryn ac wedi gwylltu, yn methu aros yn y tŷ ond yn ofni mynd allan rhag ofn bod yr elor wedi dod i'm cario innau i'r bedd!

Roedd Madog wedi cal stroc ac wedi marw yn y fan a'r lle - a Luned am i ni'n dau ofalu am drefniade'r angladd.

Bryd arall breuddwydiai am angladd ei dad, angladd ei frawd, angladd ei chwaer a'i angladd ef ei hun.

Mae'n gweld plentyn yn cael ei genhedlu mewn angladd yn y gerdd 'Angladd', hynny yw, yr oedd Cymru newydd yn codi o arch yr hen Gymru.

Dilyn Edward Ifans i angladd yng Nglynarthen.

Bu Israeliaid yn dosbarthu taflenni mewn angladd yn Jerwsalem ag arnyn nhw: Mae cytundeb Oslo'n farw.

Fe fu+m i yn yr angladd.

Daeth cynulliad teilwng i wasanaeth cyhoeddus ddydd yr angladd i dalu'r gymwynas olaf i un oedd mor annwyl a hoffus yn eu golwg; dan arweiniad y Parch.

Ac yn Gymry da, fe ddaethom i gyd i'r angladd.

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau% Dirwynai'r angladd yn araf ar hyd llwybr cul mynydd fel sarff drist ar ei thor.

Diolchais i'r nefoedd nad oeddwn yn reidio'n aml i'r stabl honno ac mai job diwrnod oedd hon am fod Steve Millace, y joci arferol, wedi mynd i angladd ei dad.

Cynorthwywyd ei Weinidog y Parchg Robin Samuel yn ei angladd gan y Parchg Robin Williams, Maesteg.

Yn ei angladd clywais rywun yn dweud am grŵp o ffermwyr ifainc a gafodd eu cyfareddu gan ddarlith ar enwau caeau a roesai iddynt yn ddiweddar ac a safodd ar eu traed fel un gŵr i guro dwylo iddo.

Mae yna densiwn hefyd yn yr ardal oherwydd bod angladd Leah Rabin, gweddw Yitzhak Rabin, y prif weinidog Israelaidd gafodd ei lofruddio.

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Busnes digon od yw angladd, ar y gore, a doedd gan neb ohonon ni fawr ddim i weud pan es i a Jac draw i fesur Madog ac wedyn i fynd a'r coffin draw.

Roedd torf fawr arall yn Khan Younis ar Lain Gaza yn angladd protestiwr ifanc gafodd ei ladd gan filwyr Israel.

Dim ond i Eli ddal ar dir y byw am dri mis caiff angladd a charreg wrth ei fodd.

Yn anffodus trawyd Mrs Jenkins yn wael iawn y nos cyn ei angladd ac aethpwyd â hi i Ysbyty Tywysoges Cymru.

Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.

Oedodd Nantlais ei daith am ddiwrnod er mwyn bod yn yr angladd.

Cofiaf fy mod i a'm chwaer yn rhedeg i ben ucha'r ardd i edrych am yr angladd, ac yn rhedeg yn ôl i'r tŷ i ddweud fod y dynion yn dechrau dod.

Daeth yn arweinydd y blaid, a thraddododd araith yn angladd ei arwr.

Clywais nifer yn holi ar ôl yr angladd, ble'r oedd rhai o wyr mwyaf blaenllaw'r genedl, oherwydd ni roddwyd gwr mwy nag ef yn naear Cymru yn y blynyddoedd diwethaf hyn.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.

Cofiwch, 'doedd dim rhaid iddo fe wneud dim, ac roedd pob un yn meddwl y bydde Luned yn rhoi notis iddo fe'n syth ar ol angladd a mynd i whilo am waith yn y dre - fel y merched ifanc erill.

Hydref ddail, dorf eiddilaf - sy'n eu trem Yn swn troed y gaeaf, Treulient eu horiau olaf Ar ingol ddor angladd haf.

Gwansaethwyd yn yr angladd gan y Parch'n Charles Durke, Robin Williams, Islwyn Evans Treharris (Saron gynt) y Tad Felix Connolly, Ficer Graham Jones, a Byron Davies.

A phan fu mam Luned farw, fe ofalodd am drefniade'r angladd i gyd - camgymeriad, achos Jac y Sar sy wedi gofalu am bob angladd yn y pentre er pan wi'n cofio.

Yr oedd angladd i mi yn yr oedran hwnnw, tua phum mlwydd oed, yn beth i'w ofni.