Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anhepgorol

anhepgorol

Y mae'r wybodaeth a gesglir trwy'r cyfryngau hyn yn anhepgorol i'r perchennog neu'r rheolwr, er mwyn iddo osgoi camgymeriadau'r gorffennol a gwella perfformiad y busnes.

Mae mabwysiadu polisi sy'n datgan mai Cymraeg yw cyfrwng addysg adran y plant bach yn hollol anhepgorol os yw Cymraeg y Cymry i'w chadw'n loyw.

Ond mae'n rhaid derbyn bod carbon yn anhepgorol i gynnal organebau byw lle bynn ag y byddont.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Y mae ambell ddarn o graffiti yn codi dir uchel mewn celfyddyd weledol: Balls to Picasso - Ambell un yn grefyddol ei naws: "Jesus Saves--but Southall is better." Mae amryw byd yn rhywiol wrth gwrs ac mae waliau tū bach yn feysydd ymchwil anhepgorol i'r sawl sydd am lunio Blodeugerdd o Limrigau neu hyd yn oed gasgliad o englynion coch.

Oherwydd hynny roedd cael athrawon medrus ac enillgar i'r bobl ieuainc yn anhepgorol.