Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anial

anial

"Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar stori." "Mi wyddost am y rhostir anial sydd yna y tu allan i bentref Plouvineg ac am y meini hirion anferth sydd yno?" meddai'r ych.

Mae Llyn Cwmstradllyn yn lecyn delfrydol i'r rhai sy'n hoffi pysgota mewn mannau anial.

Hêd y gwcw, gwna un siwrne, Hêd ymhell i'r dwyrain dir, Dal ar linell haul y bore, Ar dy aden dal yn hir; Gerllaw Tigris, er mor anodd, Dyro gân o gôl y gwynt, Yn yr anial, yno tawodd Un a ganodd lawer gynt.

Yno y magai yn ei siol ei theulu niferus o gathod bach ac y llenwai bocedi'i brat ag afalau prenglas o'r ardd anial.

Tir hesb, anial ydy maes anfantais meddwl i'r rhelyw o feddygon, heb fawr o gyfle i wneud strôc nac i ymarfer yn breifat.

Amcangyfrifwyd mai rhyw dri chan mil oedd ohonynt, gyda thuedd naturiol i'r boblogaeth grynhoi ar y tiroedd isel ac yn y dyffrynnoedd: anial a choediog oedd llawer o'r tiroedd uchel, ac anodd oedd teithio ar hyd y ffyrdd lleidiog a garw.

Diau fod naws unig eu cynefin nythu ar diroedd anial y gogledd pell yn eu canlyn i aeafu yma yng Ngwledydd Prydain.

Ac a fydd yno rywun ar ôl i sôn wrthynt am yr 'hen ffyddlondeb' a ddangoswyd iddynt yn yr 'anial cras' ac a barodd iddynt anghofio'r cyfyngdera' 'wrth foliannu nerth ei ras'?

Gwlad anial i'w threfedigaethau ydyw.