Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anllythrennog

anllythrennog

Anllythrennog hollol, fel y buasid yn tybio, yn eu mamiaith ac yn Lladin, oedd mwyafrif llethol lleygwyr y cyfnod.

Yr oedd yn Sarah Owen, meddai ef, 'ryw ddefnydd anghyffredin', nid yn unig yn gorfforol - cerddodd bedair milltir a deugain un diwrnod gwresog gan gario plentyn ar ei braich y rhan fwyaf o'r ffordd - eithr hefyd yn feddyliol, oblegid er ei bod yn anllythrennog, yr oedd ganddi gof cryf a chariai lawer o lenyddiaeth arno.

Pan ddaeth Y Cymry, diolch i ysgolion Griffith Jones, yn bobl lythrennog, yr oedd y Gwyddelod, fel y Llydawyr a'r Sgotiaid Gaeleg, yn anllythrennog; yng Nghernyw ac Ynys Manaw yr oedd yr ieithoedd brodorol wedi marw neu ar farw.

Gall gormod o deledu eu gwneud yn anllythrennog.

Cefais fy nghyhuddo unwaith o 'ddwgyd' yr enw oddi wrth y baswr lleol adnabyddus Jac Pennar Williams, ond gellid dadlau fod gennyf ddwbl hawl y cantor hynod hwnnw, hynod ei ddawn a'i lais - er ei fod, gyda llaw, yn gerddorol anllythrennog.

Anllythrennog oedd llawer o'r hen frodyr a gymerai ran yn gyhoeddus, yn fwy o bosibl na'r ieuenctid a fynychai'r Ysgol Sul.

Yn yr ardal hon hefyd, fel mewn ardaloedd eraill, roedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y cyfnod hwn yn anllythrennog.

Yn Nhwrci a Rwsia yr oedd y werin bron yn gyfan gwbl anllythrennog; dim ond ychydig o ysgolion mynachaidd a gafwyd, ac ysgolion Koranaidd lle dysgai'r plant ddarllen y Koran heb ei ddeall.

Ei chydnabod, nid ei mab, a ddywedai ei bod yn anllythrennog yn yr ystyr na fedrai ddarllen.