Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anlwc

anlwc

Bydd pobl sy'n gamblo'n broffesiynol yn ymwybodol iawn o lwc ac anlwc ac oherwydd hynny yn ofergoelus iawn.

Un cysur sydd gan y gamblwr anlwcus yw'r gred fod y sawl sy'n cael anlwc efo'r cardiau yn cael lwc mewn cariad!

Os bydd chwaraewr yn dal tair pêl mewn un llaw tra'n 'syrfio' ni chaiff ddim ond anlwc.

Rhaid galw am bêl newydd fel na yr anlwc ei ailadrodd.

Ni ddylai merch gyffwrdd ysgwydd dyn wrth iddo eistedd i lawr i chwarae, yn wir mae'n arwydd o anlwc os digwydd iddo gyfarfod â merch ar y ffordd i'r casino - anlwcus i bawb ond James Bond!

Cred os gweithredir mewn modd neilltuol mae anlwc yn dilyn.

Roedd hen dderwen yn gysylltiedig â Sant Oswald ger Croesoswallt a chredai'r bobl y deuai anlwc ar neb a dorrai ei changhennau.

Yn y pumdegau hefyd y dechreuodd y gred fod gweld fan bost yn gallu dod â lwc neu anlwc i berson.

Ganrifoedd wedi amser Hywel fe'i hystyrid yn drosedd i dorri coeden dderw a deuai dim ond anlwc i'r sawl a wnâi hynny.

Rhag i anlwc o'r math yma ddigwydd i'r sawl sy'n gweld ambiwlans yn mynd heibio iddo dylai'r person hwnnw afael yn dynn yng ngholer ei got, dal ei anadl a gwasgu'i drwyn nes gweld ci brown neu ddu!

Mewn rhai ardaloedd cred pobl fod anlwc yn siŵr o ddilyn os bydd dau berson yn siarad â'i gilydd wrth deithio o dan bont rheilffordd.

Anogwyd Mr Rowland George, y ffermwr, gan yr ardalwyr i ail-gladdu'r penglogau 'rhag i anlwc ddodd i'w ran'.

Cred mewn rhagarwyddion neu argoelion, cred fod rhai pethau, yn arbennig ym myd natur, megis adar ac anifeiliaid, yn gyfrwng i ragfynegi'r dyfodol ac i ddateglu gwybodaeth am gyflwr dyn ei hun, boed lwyddiant neu aflwyddiant, lwc neu anlwc.

Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.

Manteisiodd ar anlwc Michael Schumacher gan ennill ei ail brif bencampwriaeth am y tymor.

Er enghraifft, gweld un frân neu bioden: anlwc, 'dwy frân dda, lwc dda i mi.'

Yn aml, gwelir medalau Sant Christopher neu bedol ar gar er mwyn cadw pob anlwc draw oddi wrth y teithwyr ynddo.

Mae merched yn gallu achosi anlwc i ddynion sy'n chwarae cardiau.

Mae elfen gref o lwc neu anlwc mewn rasio ceffylau hefyd.

Bydd yr anlwc yn dod boed y bobl yn cerdded o dan y bont neu'n teithio mewn car neu drên.

'Fe gawson nhw 'chydig o anlwc yn Northampton yn ddiweddar - colli yn y munde ola.