Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annatod

annatod

Mae ofergoeliaeth yn rhan annatod ohonom.

Mae'n holl bwysig fod cyswllt rhwng yr ochrau hyn gan mai nhw sy'n pwysleisio fod Datblygu a Rheolaeth yn rhan annatod o Tai Eryri.

Erbyn heddiw, a'r pwyslais o ran cynhyrchu wedi symud i'r sector annibynnol, does dim strwythur o'r fath yn bod mewn maes lle mae llafur achlysurol yn rhan annatod o natur y brodwaith.

Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.

Y mae'r plu chweochrog yn rhan annatod o dymor yr hirlwm a diau y gwna'r eira lawer o les wrth ladd hadau anhwylderau mewn dyn ac anifail a thir.

MAE CEFNDIR CYMDEITHASOL, amaethyddol a gwerinol Eifionydd yn rhan annatod ohonof, a thros y cyfnod o ugain mlynedd y bu+m yn yr Alban a Lloegr a thros y môr nid aeth diwrnod heibio na chefais gip a r Eifionydd yn nrych fy meddwl.

Rydw i yn cario baich o amheuaeth ac o dywyllwch drwy fy oes, yn rhan annatod o'm ffydd a'm gobaith, ond gyda hynny yn aros gyda'm dewis a cheisio gwneud y pethau sy raid.

TUC Cymru - Mae TUC Cymru yn rhan annatod o Gyngres Undebau Llafur y DU.

Fel llenyddiaeth a chelf, mae seryddiaeth yn ychwanegu at gyfoeth ein bywydau, yn ateb ein cwestiynau am y sêr a'r bydysawd, ac fe'i hystyrir yn rhan annatod o weithgareddau gwlad waraidd.

Ond mae digwyddiadau fel hyn yn gyffredin, yn rhan annatod o gyfansoddiad y gêm.

Rhan annatod o lwyddiant ysgubol y sioe Awê Bryncoch!

Bellach prin yw'r sôn am sgubell ym myd coelion ac arferion gwerin, ac eithrio'r cyswllt annatod rhyngddi â gwrachod ar Nos Galangaeaf.

Mae sesiynau acwstig wedi bod yn rhan annatod o raglenni Gang Bangor byth ers i'r rhaglen ddechrau ddwy flynedd yn ôl, felly does dim amheuaeth ein bod yn gwerthfawrogi cerddoriaeth o'r fath.

Felly yr un cynlluniau asesu sydd ar y gweill i'r gorau o Ynysoedd Prydain yn ogystal â'r brwdfrydedd sy'n rhan annatod o gymeriad lliwgar Steve Black.

Daeth i sylweddoli fod Gwion yn unigolyn, yn berson a oedd yn hoffi llwyddo, ac fel yr esbonia Gwynn, 'nid yn rhan annatod o'r cyfundod a elwid y mentally handicapped.' Daeth yn weithgar gyda Chymdeithas Mencap Caernarfon a'r cylch.

Os ydym arn gadw cefn gwlad Cymru yn fyw, rhaid inni amddiffyn y patrwm cymdeithasol a grewyd gan y cenedlaethau a aeth o'n blaen ac y mae ysgol bentref yn rhan annatod o'rpatrwm hwnnw.

Yn ystod 2000 bydd pecyn hyfforddiant integredig uchelgeisiol yn cael ei ddatblygu i athrawon i ddatblygu sgiliau wrth wneud defnydd effeithiol o TGCh fel rhan annatod ou haddysgu.

Ynghlwm wrth hyn mae'r gred fod diwylliant, hanes a iaith yn rhan annatod o'r gwerthfawrogiad, fel y mae dulliau gwyddonol yn hanfodol i'r ddealltwriaeth.

Yn ystod 2000 bydd pecyn hyfforddiant integredig uchelgeisiol yn cael ei ddatblygu i athrawon i ddatblygu sgiliau wrth wneud defnydd effeithiol o TGCh fel rhan annatod o'u haddysgu.

Un o dasgau cyntaf Menter Cwm Gwendraeth pan lawnsiwyd hi dros flwyddyn yn ôl fel cynllun peilot i hybu'r laith yn y gymuned oedd meddwl am ffyrdd i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl Cwm Gwendraeth ynglŷn â phwysigrwydd a gwerth parhad y Gymraeg fel elfen annatod o wead a chymeriad yr ardal.

Mae mwyafrif y cyffelybiaethau yn rhannau annatod o'r darlun ac yn ein galluogi i weld a chlywed a theimlo naws ac awyrgylch.