Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annerch

annerch

Pan gyrhaeddodd y Fishguard Express funudau wedi deg o'r gloch, er enghraifft, dringodd rhai picedwyr lwyfan troed y peiriant i ddadlau â'r gyrrwr ac i annerch y dyrfa.

` Yn fuan wedyn gwahoddwyd T. W. Jones, AS Meirion, a Goronwy Roberts AS i annerch cwrdd a drefnwyd gan y Pwyllgor Amddiffyn yng Nghapel Celyn.

Yr oedd Dydd Sul hefyd yn ddiwrnod arbennig gyda gwasanaeth yn y bore a'r Dr Rosina Davies yn annerch.

Yn ystod ei thair wythnos ym Mhrydain bu Justine Merritt yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus yn Aberystwyth a Bangor.

Mae'n bwysig iawn fod aelodau'r Pwyllgor yn deall o'r cychwyn bod modd defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfod a gellir atgyfnerthu hyn yn weledol drwy osod copi o bolisi iaith y Cynulliad (pan ddaw) neu eiriau Deddf Llywodraeth Cymru ynghylch defnydd y ddwy iaith, neu Reol Sefydlog 8.23 -- 'Caiff aelodau'r pwyllgorau, a phersonau eraill sy'n annerch y pwyllgorau siarad Cymraeg neu Saesneg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer trafodion Cymraeg.

HR Jones oedd yr unig un a drefnai gyfarfodydd, er mawr ddryswch, weithiau, i'r siaradwyr yr hysbysebwyd eu bod yn annerch cyn iddynt dderbyn gwahoddiadau.

Ar ein ffordd adref aethom i Lanelwedd er mwyn imi annerch cyfarfod o bwyllgor siroedd Brycheiniog a Maesyfed o'r Undeb.

Wrth annerch cynhadledd ar Entrepreneuriaeth a Busnesau Bychan yn y Cyfryngau, yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ar ddydd Gwener 8 Hydref bydd HUW JONES, Prif Weithredwr S4C, yn dadlau fod yn rhaid derbyn bod impact economaidd ac effaith bendant S4C ar fusnes a bywoliaethau yn bell gyrhaeddol.

Wrth edrych yn ôl byddaf yn aml yn rhyfeddu at fy hyfdra a'm digywilydd-dra'n mentro mynd allan i annerch ar wleidyddiaeth.

Anogwyd y swyddogion i ddod i'r noson a manteisio ar arbenigrwydd y rhai fydd yn annerch.

Gofynwyd imi annerch cinio misol o Rotariaid a bu+m yn ceisio egluro dipyn am Gymru yng nghyfarfod y merched pwysig, sef, 'The Daughters of the Revolution'.

A ffrwyth hyn oedd y miloedd pobl ar hyd a lled y wlad a allai annerch cynulleidfa fawr mewn capel, eglwys a neuadd mewn Cymraeg graenus.

Llwyddwyd i gael rhai o sêr y cyfryngau i annerch y dorf, canwr pop, actor enwog a chyn-chwaraewr rygbi.

bu'n llafurio'n gyson o blaid heddwch am flynyddoedd cyn hynny, gan deithio o amgylch y wlad i ddarlithio ac annerch cyfarfodydd yn aml.

Yr oedd gwraig oedrannus wedi teithio yn bell i'm clywed yn annerch yn Llanddewibrefi.

Cafwyd hefyd sylwadau positif iawn gan Carwyn Jones ar ran y Blaid Lafur a gan David Davies - y Ceidwadwr cyntaf i annerch cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan y Gymdeithas.

Cymerwn ran amlwg yn y cyrddau hynny, dechrau'r cyfarfodydd, annerch a hyd yn oed pregethu.

Diolchwyd i Gary Holdsworth o'r Asiantaeth Fudd-Daliadau am ei bresenoldeb.Bu iddo fynychu cyfarfod o'r gweithwyr i annerch cynghorwyr ar y DSS a'r sustem fudd-daliadau.

Anodd oedd annerch yn gyhoeddus mor fuan ar ôl profedigaeth, ond rhaid oedd ufuddhau i'r alwad.

Un dydd Gwener ar ddiwedd darlith olaf y bore dyma JE Daniel, ar ôl gorffen darlithio ar Athrawiaeth Gristnogol, yn dod ataf ac yn gofyn imi fynd gydag ef y noson honno i annerch cyfarfod y Blaid yn festri Capel Maes y Neuadd, Trefor.

Mae hwn yn gyfarfod arbennig gan fod Inaki Irzabalbeita o Wlad y Basg wedi derbyn gwahoddiad i'w annerch.

Enid Rowlands, i annerch yr aelodau ynglyn a gweithgareddau TARGED a'r budd o ymaelodi a'r corff hwnnw.

Wrth iddo annerch Comisiwn Cefn Gwlad Cymru, gwelodd y Tywysog Charles yn dda i ddyfynnu geiriau'r diweddar Ddoctor Saunders Lewis (o bawb!):

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

Caiff personau heblaw Aelodau annerch pwyllgorau mewn ieithoedd eraill drwy gytundeb ymlaen llaw â'r cadeirydd' -- mewn lle amlwg yn ystafell y Pwyllgor neu ar gardiau bach ar y bwrdd o flaen pob aelod.

'Edrych dithau am oleuni Duw yn dy feddwl 'Deffro, Deffro, Deffro, a rhodia fel plentyn y dydd, a Derbyn yr annerch yma (oddifry) drwy law dy gymydog'.

Mae llyfrau fel ffynhonnau, a Dyscawdwyr fel goleuadau lawer yr awron ymysg rhai dynion Cymmer dithau (O Gymro Caredig) air byr mewn gwirionedd ith annerch yn dy iaith dy hun.

'Prydydd a'i geilw paradwys'; 'Cyntedd gwin a medd ym yw' 'Lle seinia lliaws annerch'.

Rowlands ddod i'r cyfarfod hwn ond derbyniodd y gwahoddiad i annerch y cyfarfod ym mis Mawrth.

Williams ddim syniad fod disgwyl iddo annerch, ond gwnaeth ei orau.

Cyfeiriodd Mr Hague at y peth pan yn annerch cynhadledd y Ceidwadwyr.

Ar yr ail ymweliad cefais annerch y Cyngor ar ei wahoddiad.

Yn wyneb dioddefaint rhai o'r teithwyr a oedd mewn cerbydau trên o hyd, cytunodd y Pwyllgor Streic i annerch y dyrfa.

Mae yna stori - am weinidog yn annerch mewn priodas.

Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.

Un o'r golygfeydd gwleidyddol rhyfeddaf o fewn cof i mi oedd y lluniau hynny ar y teledu o Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin, yn annerch seiswn cyntaf Cynulliad Gogledd Iwerddon mewn Gwyddeleg gyda'r Parchg Ddr Ian Paisley a'i giwed yn edrych arno'n hurt.

Ymwelodd Dr Tudur Jones, Dafydd Jones Caefadog a minnau ddwywaith â Chyngor Lerpwl i geisio'i annerch.

Maen teimlo y gallai ei bresenoldeb yn annerch Pwyllgor Technegol Undeb Rygbi Cymru nos Iau, fod yn hollbwysig.