Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annhebyg

annhebyg

Ar Gors Ddyga newidiwyd llwybr yr afon yn sylweddol yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, ac o ganlyniad mae ei thraeniad yn gwbl annhebyg i'r hyn ydoedd yn wreiddiol a naturiol.

Hyd yn oed wedyn os edrychwch yn syth at yr alaeth mae'n annhebyg y gwelwch chi hi.

Nid oes gan rai beirdd (a chofier, nid rhai i'w bychanu na'u hanwybyddu ydynt o angenrheidrwydd) mo'r gallu i uno'r annhebyg.

O ran pryd a gwedd annhebyg ydynt i frodorion India; maen nhw'n debycach i bobl Burma, Thailand, a Cambodia.

Y wir farddoniaeth sy'n sicrhau ymateb ysgytiol gyffrous yw honno pan yw'r cydio trosiadol yn uno'r annhebyg, y gwrthwynebus a'r ymddangosiadol anghydnaws - ac os caf ddyfynnu, heb ennyn chwerwedd rhai beirniaid, eiriau Coleridge, ...

Yr oedd yn bosibl, wrth gwrs, fod y dyn dysgedig hefyd wedi cael profiad mewnol, ond yr oedd hyn yn annhebyg, gan fod yr offeiriadaeth yn bennaf yn broffesiwn - sef ffordd o ennill bywiolaeth - a ddenai bobl am y rhesymau anghywir, felly.

Dau mor annhebyg, yn syndod o hoff o'i gilydd.

Dim ond un Alun Jones sydd gennym, ond er mor annhebyg iddo yw nofelwyr eraill diwedd y saithdegau a'r wythdegau, mae'n ymddangos i mi inni gael adfywiad ym maes y nofel yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

I grynhoi, felly, er ei bod yn bur annhebyg bod polisi%au gwrthgylchol y llywodraeth ar ôl y Rhyfel wedi cael effaith groes i'r bwriad, y tebyg ydyw mai bach iawn hefyd oedd eu cyfraniad positif tuag at sefydlogi'r economi.

Aeth hanesydd diweddarach, yr Athro Alcock, i chwilio am Arthur mewn caer nid annhebyg, ond yn llawer nes i'r gorllewin, sef South Cadbury yng Ngwlad yr Haf.

Ac yn hynny y mae 'mawr lonyddwch' a chysur, nid annhebyg eto i'r hyn sy'n deillio o ystyried (yn yr ystyr o meditatio) nirfana.

Mae gennym ni linellau o emyn yn rhywle sy'n dweud, 'Mhen oesoedd rif y gywod man/Ni bydd y gan ond dechrau'; syniad nid annhebyg i'r un Indiaidd.

Yr oedd eu cyfrifoldeb yn fawr, a'u swydd yn annhebyg i unrhyw swydd arall.

Wrth edrych yn ôl, bach iawn hyd yn gymharol ddiweddar oedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y Gyllideb: ac y mae'n annhebyg felly fod y rheiny wedi dylanwadu ryw lawer y naill ffordd neu'r llall ar gwrs yr economi, yn arbennig o gofio am y sefydlogrwydd cynhenid sy'n deillio o system trethiant esgynraddol, budd-daliadau diwaith, a sefydlogyddion tebyg.