Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annibyniaeth

annibyniaeth

Mynnwn nid annibyniaeth, eithr rhyddid.

Aelod o'r teulu oedd y Parchg Thomas Ellis, Tyddyn Eli, hen, hen daid David Ellis, a phrif arloeswr Annibyniaeth yr ardal.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

annibyniaeth...

cynnal (hynny yw, offer technolegol megis cadair olwyn, neu ofal personol megis helpwr) fe allwch ennill annibyniaeth.

Cyn i Gyngor Henoed Gwynedd sefydlu'i annibyniaeth, sefydlwyd canolfan ddydd wirfoddol yn Nyffryn Ardudwy, gwnaed ymchwil i'r angen am ganolfannau dydd eraill yn Arfon, a chyd-weithiwyd a'r WRVS er sefydlu gwasanaeth siopa i'r henoed yn Arfon.

Wrth geisio byw yn ol diffiniad corfforol annibyniaeth roedd Zola wedi aberthu ei annibyniaeth cymdeithasol a seicolegol.

Amcan y frigâd fyddai ymladd dros annibyniaeth Iwerddon.

Ym Mhþyl y mae annibyniaeth wleidyddol wedi cerdded law yn llaw gydag annibyniaeth artistig.

Un o'r adegau hynny pan fo eich plentyn yn mynnu rhywfaint o annibyniaeth a chithau heb baratoi ar ei gyfer.

Sylfaen yr ymwybyddiaeth fodern, meddai, oedd ymdeimlad o annibyniaeth ar allanolion ynghyd â ffydd yng ngallu'r dyn unigol i ateb cwestiynau dyrys bywyd drosto'i hun.

Lewis - Annibyniaeth.

Uwch paned mewn caffi yn adeilad y Senedd, fe geisiodd esbonio beth oedd y sefyllfa wleidyddol; fel yr oedd Sajudis wedi chwalu ar ôl cael annibyniaeth.

Ys dywedodd Marti, 'Dyw annibyniaeth wleidyddol ddim yn bosibl heb annibyniaeth economaidd' - yr union beth sy'n amhosibl mewn gwlad fechan heb fawr o adnoddau naturiol cyfoethog.

Gwrthdaro rhwng Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi wrth roi'r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru a'r Alban o'r neilltu.

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

Mi fydd yn powlio crio 'gei di weld.' 'Dwi inna isio crio, ond 'mod i yn methu 'te.' Rhyfel Annibyniaeth America ac ymyrraeth y Ffrancwyr a alwodd y Capten Timothy Edwards yn ôl i'r môr, a hynny wedi tair blynedd ar ddeg o fod yn llongwr tir sych.

Dylai dyfarniadau ar ansawdd y dysgu mewn Cymraeg/Saesneg roi ystyriaeth i ymateb y disgyblion i dasgau o ran eu diddordeb, eu cyfranogiad a'u mwynhad; cyflymder eu gwaith; i ba raddau y maent yn amlygu cynnydd wrth ddefnyddio'r iaith lafar ac ysgrifenedig, ac yn datblygu annibyniaeth, llithrigrwydd ymadrodd a chywirdeb yn briodol i'w hoedran a chyfnod eu datblygiad.

Gellid dweud yn ddibetrus mai profiad sobreiddiol fyddai i brif weinidog unrhyw wlad edrych dros lawr y Tþ a syllu i fyw llygaid arweinydd yr Wrthblaid gan wybod fo dhwnnw yn cynrychioli plaid sy'n dymuno arwain rhan o'r wlad i annibyniaeth.

Yn ei wynebu, roedd band pres yn canu alawon addas i ddathlu pen blwydd annibyniaeth Ariannin.

Mae unrhyw genedl sy'n trin y gwan a'r diamddiffyn yn y modd y triniwyd yr Ogoni gan Nigeria yn colli'r hawl i annibyniaeth a rhyddid rhag dylanwadau o'r tu allan.

Roedd o yn ymarfer rhannau pwysicaf gwir annibyniaeth - rheolaeth a dewis.

Lladd cenedlaetholdeb yw pregethu i etholwyr Cymru mai mantais economaidd iddynt hwy fyddai fod gan Gymru annibyniaeth neu mai felly'n unig y cânt hwy lywodraeth sosialaidd.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Er fod Dafydd Elis Thomas wedi sôn flwyddyn yn ôl am annibyniaeth y Bwrdd, mae'r rhan yma o'r broses allan o'u dwylo nhw.

Yn ei hanfod, cenedlaetholdeb diwylliannol yn hytrach nag annibyniaeth wleidyddol y dymunai ef i'r blaid newydd fabwysiadu - awgrymodd y gallai annibyniaeth wleidyddol awrain at drais a gormes.

Cyd-ddibynnol yw cenhedloedd y ddynoliaeth, a syniad diffrwyth yw annibyniaeth, a elwir weithiau yn sofraniaeth absoliwt neu ddiamod.

Yn gyntaf oll, peidiwn â gofyn am annibyniaeth i Gymru.

Mae'n tanseilio holl egwyddor annibyniaeth.'

Termau a glywid yn aml mewn cynadleddau rhanbarthol ac yn nhrafodaethau Ysgolion Haf Plaid Cymru ydoedd annibyniaeth, rhyddid, perchentyaeth, cydweithrediad mewn diwydiant, datganoli, gwasgaru diwydiant a dangos mai un o amodau gwarineb yw osgoi mawrdra.

Roedd diwedd caethwasiaeth a Rhyfel Annibyniaeth America yn ergyd economaidd drom i Lerpwl, ond erbyn hynny sefydlwyd llwybrau marchnata newydd i'r Dwyrain Pell a mannau eraill, a manteisiwyd hefyd ar yr holl ymfudwyr a hwyliai o Lerpwl i fyd newydd yn America neu Awstralia.

Er mai rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol Cymreig a Chymraeg yw stiwdio'r gogledd, bu yma erioed rhyw ymdeimlad o arwahanrwydd ac annibyniaeth.

Gellir edrych ar ddefnydd o gynorthwyon o'r fath un ai fel colli annibyniaeth a symudiad o'r byd abl i amgylchedd anabl, neu fel symudiad o ieuenctid i henoed efo'i holl ddelweddau negyddol.

Hanfod Peronistiaeth oedd iawnder cymdeithasol, annibyniaeth economaidd, a sofraniaeth wleidyddol i'r wlad; mewn geiriau eraill, math o sosialaeth genedlaethol.

Gyda'ch gilydd byddwch yn nodi eich anghenion ac yn trefnu cynllun gofal fydd yn penderfynu sut orau i gwrdd â'ch anghenion a rhoi i chi gymaint o annibyniaeth ag sydd bosib.

Yr Unol Daleithiau yn dathlu 200 mlynedd o annibyniaeth.

Arweiniodd hyn at ryfel annibyniaeth yn y chwedegau cynnar.