Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annigonol

annigonol

Oherwydd y gred fod y drefn gyfansoddiadol yn annigonol i ymdrin â'r problemau a fyddai'n codi wedi'r Rhyfel, daeth sôn am sefydlu seneddau rhanbarthol, system ffederal.

O ystyried pwysigrwydd a pholblogrwydd yr Historia oddi ar yr amser y'i cyfansoddwyd yn y ddeuddegfed ganrif, y mae'n syn meddwl mor annigonol fu'r gwaith testunol a wnaed arno yn y gorffennol.

Credai cynifer o Gymry'r cymoedd diwydiannol hyn fod y Gymraeg yn isradd, yn hen ffasiwn, yn annigonol ac yn amherthnasol i anghenion y byd sydd ohoni.

ù Cyflenwad annigonol o dai yn lleol.

Gweithiai dwy ffactor eisoes fel lefain yn y blawd i newid y ddarpariaeth annigonol hon.

Ond doedd hynny ddim yn ei rhwystro rhag gwneud ei gorau glas i gael cleient yn rhydd os oedd y dystiolaeth yn ei erbyn yn annigonol.

Yn sgil y system bresennol, mae'r drefn o fonitro cynlluniau iaith yn aneffeithiol ac yn anymarferol i'w chyflawni, a chanlyniad hyn oll yw fod rhaid cwyno yn barhaus neu fodloni ar wasanaeth anghyflawn ac annigonol yn aml.

Roedd Thomas a Gomer wedi clymu'r waliau yn ei gilydd yn grefftus ond roedd hyd yn oed eu crefft hwy'n annigonol i rwystro ambell grac rhag amlygu'i hun.

Fel mae'n digwydd yr wyf yn cytuno â hwy yn eu gofid am 'safon' iaith, ond ofnaf fy mod yn gweld eu dehongliad o'r hyn sy'n digwydd yn annigonol.

Nid yw wahaniaeth p'run ai'r tlws ai'r tebyg hyll a unir, mae'r ddwy agwedd mor annigonol â'i gilydd i wneud tegwch â bywyd.

Yn bennaf oll, oherwydd bod y broses yn ei chyfanrwydd yn cymryd pum mlynedd, roedd y wybodaeth a ddysgid mewn dwy neu dair blynedd yn arwynebol iawn ac yn annigonol ar gyfer amcanion cyffredinol cyfathrebu.

Ymateb Schneider oedd dadlau mai annigonol oedd hyn a datganodd, a'i dafod yn ei foch, nid yn unig ei barodrwydd i ufuddhau i'r gweinidog addysg Eduard Pestel ond hefyd ei gariad tuag ato.

Mae angen rhaglen newyddion i Gymru ar ôl 7pm, ac erys y crynodeb byr am 9.28pm ar BBC Un yn annigonol.