Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annuwiol

annuwiol

A gwelai rhai o'r crefyddwyr mwyaf selog o fewn y capel ei hun y rhyfel fel brwydr yn erbyn yr annuwiol rai.

Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.

Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.

Roeddwn yn siarad hefo fo ar y lon ar y ffordd adra 'ma, ac roedd yntau'n dweud wrtha i fod Begw wedi marw a'i fod heb ddim i'w chladdu, ac mi rois chewugain iddo' 'Wel,wel, wedi'n trin ni' annuwiol.

Dyn oedd Gruffydd Parry a rannai ei grystyn olaf â thlotyn yn llawen dros ei Feistr, a bydd llawer a'i hadnabu yn ei nerth a'i ysbrydolrwydd llachar yn barod i'm blingo'n fyw am i mi chwythu'r whiff annuwiol yma o fwg baco dros bêr-arogl ei enw, mi wn.