Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annwyl

annwyl

'Ylwch be gawson ni gan Bigw.' 'Brensiach annwyl,' fydda Mam yn ei ddweud ac yn cymryd y prês oddi arnom yn syth yn barod i'w roi yn ôl i Bigw tro nesaf.

Felly, fy annwyl gyd-derfysgwyr cawn eich gweld yng Nghyfarfod Cyffredinol y flwyddyn nesaf os na fydd pob copa walltog ohonom yn y carchar wrth gwrs.

Roedd Mr Smith yn weddw Dilys, tad annwyl Diana, brawd Doris a thaid a hend daid annwyl iawn.

Priod ffyddlon Alwena a thad annwyl Sandra.

Bydd gennyf ddyled byth i dri yn arbennig, sef Mrs Burrell (daeth yn Mrs Burrell Jones yn ddiweddarach), John Roberts, Y Graig a'r annwyl Bob Edwards.

Yn ei ymosodiad ar gyfrol Ellis Annwyl Owen yn y Seren Ogleddol, cyfyngodd ei feirniadaeth i offeiriadaeth yr Eglwys Wladol, gan honni bod trefn yr eglwysi anghydffurfiol yn sicrhau duwioldeb eu gweinidogion hwy.

Ni fynnwn er dim bod yn faich arnynt, ac er eu bod yn blant digon annwyl, ni theimlwn yn arbennig o agos atynt.

Annwyl Syr,

Ond y mae'r Gwaredwr wedi cyflawni holl ofynion cyfiawnder Duw - Ef yw'r annwyl Fab yn yr Hwn y mae'r Tad wedi ei fodloni.

Y Palas Llundain, Dydd Llun Annwyl Llefelys, Dim ond nodyn byr i ddweud fod gen i dipyn o broblem yma yn Ynysoedd Prydain ar hyn o bryd, - wel, tair a bod yn fanwl gywir.

Wrth yrru adref dechreuai ail-bendroni am y posibilrwydd o 'gyfarfod eto a rhywun annwyl.' Gwyddai nad gŵr atyniadol mohono ef yng ngolwg neb.

Dyna'r tair chwaer a fu gennyf, Jess, Dol a Fflos, ac erbyn hyn Fflos yn unig sydd yn fyw; ac y mae hi mor annwyl ag erioed.

Onid oedd pawb wedi colli rhywun annwyl erbyn cyrraedd ei oedran ef?

Daliwch chi hi yn ei dillad bod dydd ac mae Lisa Victoria yn annwyl, yn hamddenol gyda llond wyneb o wen.

'Byddwch yn cyfarfod eto a rhywun annwyl.'

Ein Dr Redwood annwyl ni: sws- iddo-bob-amser; y Blwbyrd cu, cyfeillgar (llawn hwyl a sbri a thynnu coes) a'i newydd nyth yng Ngwydir Haws (a Weilz).

'Pam, neno'r annwyl?'

Y peth i'w wneud, os gallai, ydoedd gwarchod y wnionyn annwyl.

Yn wir, ni chai gyfle i ddweud fawr o ddim ac eithrio ambell 'Bobl bach!' neu 'Brensiach annwyl!' Roedd hi'n methu'n glir a dod dros y ffaith fod yr holl bethau hyn wedi digwydd a hithau'n gwybod dim amdanynt.

Mae gen i'r cŵn annwyl yma'n gwmpeini i mi, a'r gwningen heno.

Mae'r cerddi'n ddoniol, yn ddiniwed ac yn annwyl.

Problem elfennol iawn ydi'r drydedd, Lludd annwyl.

Annwyl Brif Weinidog,

Roedd gan beilot gariad--stewarde/ s fach annwyl - ac roedd hi'n byw mewn fflat oedd ganddo yn Llundain.

'Ia, Dei, un da am gellwair fuoch chi 'rioed.' "Does 'na neb o'r gangen wedi tramgwyddo, gobeithio?' 'Bobl annwyl nac oes.' 'Mae Sioned wedi bod yn brysur, meddai Lleucu fel pe bai'n egluro wrth blentyn.

Ond wedi Awstria, ac wedi Tsecoslofacia, ac ychydig cyn Dansig, bu farw'r henwr annwyl.

Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar fferm ei ewythr Mac a phan fo'r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae o am ddial.

Enillodd rhaglen o gyfres llynedd, Annwyl Kate, Annwyl Saunders a ddangoswyd eto oherwydd ceisiadau niferus, y wobr am y Rhaglen Ddogfen/Drama Ddogfen Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Beth bynnag yw rhinweddau ardaloedd, a gwledydd eraill y byd, gallaf innau dystio fod bro fy mebyd a'i llechweddau yn 'myned o hyd yn fwy annwyl im'.

Ac mae fy annwyl wraig yn fyw, diolch byth, a does gen i ddim ni~h o'r enw Gwenno, yn anltodus!

Annwyl Mr Roberts,

Dyn chwareus, annwyl a phoblogaidd oedd Jo y reidar, 'Joe the rider'.

Syfrdanwyd y crwydryn a dychrynodd drwyddo wrth weld y bachgen bach annwyl o'i flaen yn tynnu cleddyf o'i wain i'w fygwth yntau.

Nid unionodd Hugh Evans byth o dan y brofedigaeth hon, er na chlywyd mohono'n cwyno na braidd yn sôn am enw ei annwyl fachgen.

'It's Mrs Thatcher's Secretary here' meddai'r llais menywaidd Seisnig ac annwyl hwn wrthyf.

Daeth cynulliad teilwng i wasanaeth cyhoeddus ddydd yr angladd i dalu'r gymwynas olaf i un oedd mor annwyl a hoffus yn eu golwg; dan arweiniad y Parch.

Mae'r cymeriadau hwythau'n llawn ac yn annwyl: Eli'r hen gocyn bach ffwdanus; Mona'r rasberry ripple a'i thraed yn solat ar y ddaear; Tref llipa, llwfr a diddychymyg.

'Rych chi wedi colli rhywun annwyl?'

Dy chwaer fach annwyl sydd 'ma.

Rywsut roedd yr ychwanegiad diflas yma am ryw 'anffawd', ar ol son am 'rywun' dirgel o annwyl, yn drech na'r gobaith.

Ddarllenwr annwyl, dywedaf wrthych ei bod yn anodd iawn i un dyn roi terfyn ar ganu clwb rygbi heb achos go dda!

Cofio cerdded rownd pont y llyn ambell i noson yng nghwmni Ieu Glyndwr annwyl, a cherdded nôl ar hyd y ffordd cyn dod y ffordd osgoi, a sylweddoli yn sydyn yn nhrymder distawrwydd y nos fy mod i'n gallu clywed sŵn hen afon Prysor yn canu yn y Cwm.

"Bobol annwyl!" meddyliodd yr hen wraig, gan dynnu'r cwrlid yn fwy clos dros ei chlustiau, "Pwy uffarn sydd yna yr adeg hon o'r dydd?" Gan mai ei bwthyn hi oedd yr adeilad cyntaf yn y pentref o gyfeiriad y môr, roedd Morfudd wedi hen arfer bellach â dieithriaid yn galw heibio i holi'r ffordd, neu i fegera am baned o de a chrempog.

Canlyniad creu'r gwagle oedd bod yn rhaid ei lenwi, ac yr oedd y deunydd ar gael yn hwylus yn yr hen fisitors annwyl yr oedd cymaint o drigolion y Pen wedi mynd i fyw i'r sied i wneud lle iddynt yn ystod misoedd yr haf er dechrau'r ganrif.

Ar ôl dioddef salwch hir, bu farw Mrs Mair Griffiths, Fair Meadows, priod annwyl Douglas a mam gariadus Marjorie, Gareth, David a Lynne.

Annwyl Mrs Thomas

Pan daeth y meddyg ataf - merch - i roi'r rheswm am ei farwolaeth gofynnodd yn annwyl a oedd gennyf rywbeth arbennig y buaswn yn hoffi ei roi amdano.

Pwy a all fesur ein dyled i'r Cymry hynny sy'n gwrthod gwerthu eu ffermydd i'w cyd-Gymry amharchus, gan ddewis yn hytrach ymddiried y tir sydd mor annwyl ganddynt i ddwylo'r sawl a rydd brawf digamsyniol o'i barch tuag at y tir hwnnw?

A dyna braf oedd bod yn ôl; popeth mor gynefin ac mor annwyl.

Babi annwyl iawn oedd y cyfrwng newydd yng ngolwg Sam ac yr oedd yn ei fwydo â danteithion o bob math.

Annwyl Olygydd,

Bigw annwyl, wyddwn i ddim p'un ai i chwerthin neu grio.

Annwyl John,

Fodd bynnag, bu'r brotest symbolaidd a'r ddameg yn effeithiol, a throes y storm yn gyfrwng i ddangos maint 'cariad y darllenwyr annwyl tuag at ein cylchgrawn'.

Nyth hen yr heniaith annwyl, Gwlad telyn, englyn a hwyl, meddai'r Parchg Huw Roberts yn ei gywydd i Uwchaled.

Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.

ANNWYL OLYGYDD--Rwy'n sgwennu'r llythyr yma atoch fel un o Gynghorwyr Tref Blaenau Ffestiniog yn dilyn ymddiswyddiad un o'r aelodau yn y cyfarfod blynyddol yn ddiweddar am y tybiaf y medraf esbonio rhai o'r rhesymau a'r cefndir i'r digwyddiad yma.

Prif arf ymosodiad y Seren Ogleddol ar yr Eglwys Sefydledig oedd cyfres o erthyglau a ysgrifennwyd gan Hugh Hughes ar ffurf llythyron at y Parchedig Ellis Annwyl Owen.

Priod y diweddar Arthur Jones, mam annwyl Pat a'r diweddar John, a chwaer hoff Gladys a nain hoffus ei wyrion a'i wyresau.

Yr henwlad annwyl; neu Ethiopia - yr hen wlad yng nghof yr hil...

Merch annwyl yw Menna, er ei bod mor atebol.

Gwn yn dda am dy dristwch ar ôl dy fam annwyl.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Annwyl Mererid,

BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd.

Dydd Iau Annwyl Lludd, Mon Dieu!

Nid oedd bywyd hyd yn oed yn yr harbwr heno, dim ond hen lwydni tesog yn erlid pob argoelo lesni ac yn corlannu cysgodion o ddu%wch ar y gorwel., Gobeithio'r annwyl nad darogan ystorm a wnaent.

Nid un i oedi'n ormodol ymhell o'i annwyl America oedd y cyn-actor o Galiffornia.

Mae gennym ni, y genhedlaeth hyn gofion annwyl am yr Herald - yr oedd yn rhan hanfodol o'n bywyd a'n diwylliant.

Bu tipyn o glochdar am ben Wil Dafis o'r herwydd felly, ef a'i ragolygon carwriaethol bondigrybwyll ef a'i 'rywun annwyl'; a hael ei gwala fu'r hwyl am ei freuddwydion llancaidd pur uwchben peintiau per yng Ngwesty'r Llong.

Siot sy'n crisialu potensial y busnes tyfu madarch yw hwnnw lle cyfosodir y bwcedaid gwreiddiol gyda wyneb yr Hamster - y llysenw annwyl ar fabi bach June - yn ddiymgeledd ym mhlygion ei bram.

'Naddo wir, bobol annwyl, naddo erioed.

Cerdd Dant a Chynghanedd yn cael eu llusgo dan brotest i gefn Folfo a'r Babell Lên grand yn lle "i gael y'ch gweld" o'i chymharu â'r hen gwt ieir annwyl a fu.

Adlewyrchir yr amwysedd hwn yn y disgrifiad o Siôn yn yr ail baragraff, y diniweidrwydd annwyl a'r anwadalwch ar y naill law, ac ar y llall y duedd i efelychu oedolion.

Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.

Mae o'n gadael yr ysgol y tymor yma." "Ddyn annwyl, gwrandewch, da chi!

Yn ystod y flwyddyn Sabothol a gymerodd Dyfnallt Morgan tua deng mlynedd yn ol, fe'm rhoddwyd i (a fyddai wedi dwlu ar gael bod yn ddisgybl i RT) yn athro ar ei weddw - arni hi a'r lodesi eraill a berthynai i ddosbarth allanol Dyfnallt ym Mangor, hyhi a'i chydlodesi a'r diweddar Mr RS Rogers (o annwyl goffadwriaeth).

Clywais ddweud lawer gwaith, 'Bobl annwyl, fydden ni ddim yn blant drwg fel hyn.

DIOLCH Dymuna John, Gwyneth a'r plant Hengefn Llanfair Caereinion, ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl.

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG Annwyl Olygydd, Llythyr Agored at Gynghorwyr Cymuned Dosbarth a Sir Mewn ymateb i'r ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Swyddfa Gymreig yn gynharach eleni datganwyd yn ddigon clir bod gan y Cynghorau Dosbarth a'r Cynghorau Sir yr hawl i baratoi adroddiadau "ar unrhyw destun a ddymunant, gan gynnwys yr iaith Gymraeg".

Gwelwyd sawl achos yn y blynyddoedd diwethaf lle'r oedd pobl wedi lladd fel ymateb i gamdriniaeth annioddefol neu am na allent oddef yn hwy gweld rhywun annwyl iawn mewn ing dychrynllyd.

'Byddwch, byddwch yn cyfarfod a rhywun annwyl ...

Cymeriad annwyl iawn ydoedd, a gŵr disglair, â chanddo gynt swydd uchel mewn banc yn Hong Kong, ac yn medru Tseinaeg yn rhugl.

Hen wraig annwyl a alwem Betsan Hughes a edrychai ar ol y capel pryd hynny.

Mae tafodiaith yn annwyl iddo.