Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anochel

anochel

Yn 1937, os torrai rhywun y gyfraith, roedd carchar bron yn anochel.

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Ai ynteu, a ddylai hi dorri llwybr newydd o'i heiddo ei hun, mynd yn groes i'r mwyafrif a dioddef yr amhoblogrwydd a fyddai'n dilyn yn anochel o hynny?

Felly, yr oedd hi'n anochel i gwymp dyn effeithio ar y ddaear.

Yr oedd brwydr Datgysylltiad yn anochel ac yn brif nod Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth, a'r degwm yn sbardun.

Fel disgyrchiant anochel y byddai'i deimladau wrth eu boddau'n gogwyddo tuag at y gwaelod rywfodd.

Doedd hi ddim yn glasur - y maes anwastad yn gwneud hynny'n anochel.

a gâf awgrymu ichwi y gellir amau'n gryf ddilysrwydd egwyddor tebyg i'r un yr ydych chwi sydd o blaid rhyfel amddiffynnol yn sefyll wrthi, ac na ellir ei gweithredu heb ei bod yn arwain o raid, fel canlyniad i hynny ac mor anochel â ffawd, i holl gamwedd ac erchylltra yr holl drefn ?

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Oherwydd nid canlyniad rhyw un digwyddiad rhyfedd a phrin oedd y greadigaeth Ddaearol, ond, yn hytrach, ganlyniad anochel y sefyllfa gemegol a ffisegol oedd yn bod.

Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.

A fyddai ei dranc anochel ef yn fwy gogoneddus na thranc anochel pawb arall ohonom?

Mae nifer o stori%au Aled Islwyn yndarlunio ymdrech yr unigolyn i ddal ati ac hyd yn oed i geisio cynnal gwerthoedd yn wyneb diffyg strwythur a diffyg raison d'être y gymdeithas sydd ohoni, yn wyneb yr unigedd mewnol anochel sy'n rhan o brofiad cynifer.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Er gwaethaf rhybuddion teulu a ffrindiau, myn Gwenan aros efo Dyfan ac mae'r diwedd trist yn anochel.

Ac y mae bodolaeth y gerdd yn fwy fyth o syndod pan gofiwn fod marwolaeth plant bach yn ddychrynllyd o gyffredin yn yr Oesoedd Canol, a bod rhieni'n tueddu i ymgaledu a derbyn y fath golledion fel rhan anochel o fywyd yr oes.

Rhan o'r proses yma, yn anochel braidd, fu datblygu golwg ar yr hen fyd - golwg a fyddai'n amrywio, wrth reswm, yn ôl tueddion a daliadau'r unigolyn.

Roedd yna gymhlethdodau ymarferol i'w cyfleu hefyd, cymhlethdodau anochel a oedd yn dorcalonnus i'w cofnodi.

Roedd gallu Saunders Lewis mor rhyfeddol fel y tueddwyd i anwybyddu diffygion anochel y ddadl, yn enwedig diffyg unrhyw raglen bendant ar gyfer ennill rhyddid a chyfrifoldeb.

Oherwydd yr oedi anochel mewn casglu a chrynhoi ystadegau, gall wythnosau onid misoedd fynd heibio cyn i'r llywodraeth sylweddoli bod pethau'n dechrau mynd o chwith, a bod angen iddi ymyrryd â chwrs yr economi.

Nid ydym yn dweud fod hyn yn anochel - i'r gwrthwyneb, dywedwn fod hyn yn gosod her i ni feddwl a gweithredu o'r newydd er mwyn newid y tueddion ac, fel y gwnaethon ni yn 1984, gosodwn allan ein hargymhellion ni i gyflawni hyn.

Mae'n anochel y bydd y gohebydd yn cydymdeimlo fwy gyda milwyr o'r un wlad neu genedl ag ef ei hunan, sy'n siarad yr un iaith, yn ymwybodol o'r un hanes, neu yn rhannu'r un hiwmor.

Canlyniad anochel hyn oedd bod hormonau yn y cig oedd yn cael ei fwyta.

Roedd rhywfaint o drafferth yn y maes awyr yn Tel Aviv yn anochel, ond gwnaed y sefyllfa'n waeth gan fod un o'r ddau gar a'n cludodd yno yn gerbyd Palesteinaidd.

'Roedd yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol (canlyniad bron yn anochel i operasiwn radical o'r fath).

Gollyngir dros gof yn llwyr fod ugain mlynedd o Ffasgi%aeth wedi esgor ar ddirywiad dychrynllyd yn yr Eidal - datblygiad hollol anochel.

Y mae'r gair 'anochel' yn dod i'm meddwl eto, ond gadewch i ni droi unwaith yn rhagor at Nancy Dorian.

Diweddir y rhaglen ar drothwy'r Rhyfel Mawr, sef canlyniad anochel y gwrthdaro hwn rhwng yr hen drefn a'r drefn newydd.

Gan mai heddychwyr cadarn oedd tad a mam Waldo, yn anochel fe ddatblygai hi'n ddadl boeth ynghylch heddychiaeth, gyda'r hen ewythr yn dal y dylid gyrru'r holl heddychwyr i'r ffosydd yn Ffrainc.