Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anogaeth

anogaeth

Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.

Tynnwn wersi ohono.' Dyna anogaeth gwbl Hen-Destamentyddol.

Rhaid i wasanaeth da, sy'n anelu at yr ansawdd bywyd gorau posibl i'w defnyddwyr, roi pob anogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau yngl^yn a'u bywydau eu hunain.

"Fe gês i bob anogaeth a chefnogaeth gerddorol gyda mam pan oeddwn i'n blentyn," meddai Cale, sy'n awr yn 55 oed.

Er gwaethaf anogaeth y Times, papur Llundain, i Ymneilltuwyr ymatal rhag ymroi i goffa/ u marw Barrow, Greenwood a Penry, 'those misguided men', ni fynnai arweinwyr yr eglwysi yng Nghymru wrando.

Yn ystod y tymor fodd bynnag fe aeth amryw o'r clybiau ati i drefnu cystadlaethau ymhlith ei gilydd a thrwy hynny cafodd nifer o'r aelodau gyfle i ymarfer gyda'r gwaith dan anogaeth arbenigwyr fel HR Jones a Twynog Davies i enwi ond dau a fu'n hyfforddi aelodau yn dawel bach.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

Dylid felly roi i gyrff a chwmnïau y cyfleusterau, y gefnogaeth a'r anogaeth i ddarparu ar gyfer pobl sydd yn dewis defnyddio'r iaith Gymraeg wrth ddelio gyda hwy, ar yr un sail â phetaent yn dewis defnyddio'r Saesneg.

I wneud hyn, rhaid rhoi y cyfleoedd, y cyfleusterau a'r anogaeth briodol i bobl i'w galluogi i ddefnyddio'r iaith yn naturiol wrth gynnal eu busnes neu wrth dderbyn gwasanaethau dwyieithog.

Y pennap o'r rhain wrth reswm, yw bod manteision ariannol, ac anogaeth, i gynhyrchu pethau i'w gwerthu.

Dylid hefyd roi i'r cyrff a'r cwmnïau hynny y cyfleusterau, y gefnogaeth a'r anogaeth i ddarparu ar gyfer pobl sydd yn dewis defnyddio'r iaith Gymraeg wrth ddelio â hwy.

Clywir anogaeth, er gwaethaf duwch iselder, i ddal ati, i geisio cymorth cyfaill, ac i gofio'n fwy na dim, bod pawb yn brifo weithiau.

Yma yng Nghymru rhoddir anogaeth i ymgais dila ac arwynebol i ymateb i sefyllfa real y Gymru sydd ohoni, tra ystyrir ein hymdrechion ni i greu Diwylliant Gweledol Cymreig go-iawn yn amherthnasol...

O ran y gerddoriaeth, rhoddodd BBC Radio Cymru anogaeth i'r newydd a chyfle i'r profiadol.

Rydan ni'n barod.' Safai fy nghyfeillion ar y lan yn ddisgwylgar a llawn anogaeth a chynghorion da.

Ar ran yr eglwys cyflwynodd y Parchedig Huw John Hughes ddeheulaw'r gymdeithas iddynt ac roedd ei eiriau o anogaeth a chyngor yn ysbrydoliaeth i'r gynulleidfa yn ogystal a'r bobl ieuainc.

Ymatebodd ffermwyr yn frwd i'r anogaeth economaidd hon ac erbyn hyn mae PAC