Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anrhydeddu

anrhydeddu

Y cyfan sydd raid ichi ei wneud yw enwi'r llyfr y tybiwch chi a ddylai gael ei anrhydeddu yn llyfr y flwyddyn.

Nid yw'r Methodistiaid i "gablu urddas" ond i ymddwyn, mewn gair a gweithred, yn ffyddlon ddiffuant i'r llywodraeth gan anrhydeddu'r Brenin a'r sawl sydd mewn awdurdod oddi tano.

Oherwydd Cymru i mi yw'r Gymru Gymraeg, y rhan honno o'r wlad lle mae pobl yn dal i siarad, sgrifennu ac anrhydeddu eu mamiaith.

Nid trwy adael i'w tlysau hel llwch yng nghypyrddau'r Stiwt y mae anrhydeddu campau bechgyn yr ardal siawns!

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

Ei bwrpas oedd, nid yn gymaint i anrhydeddu'r merthyron, ond i ddangos i'r byd fod Rhydychen yn gwrthwynebu safbwynt a gosodiadau gwrth- Brotestannaidd Hurrell Froude.

O wybod am ei ymroddiad dros bopeth dyrchafol a da yn ein cymdeithas a'n cenedl, nid yw'n syndod iddo gael ei anrhydeddu yn y fath fodd.

Mae Beryl yn un o gynrychiolwyr Y Felinheli yng nghangen Caernarfon ac fe fydd yn cael ei anrhydeddu mewn cynhadledd a gynhelir yn Llandudno.

Mewn sawl ffordd, diwylliant dirgel yw'r diwylliant Cymraeg ac y mae'i ogoniannau yn anhysbys hyd yn oed i'r Cymry hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg, fel y gall y Cymry Cymraeg anrhydeddu Cymro enwog na fyddai gan y Saeson sy'n byw yn yr un stryd a hwy mo'r syniad lleiaf pwy ydyw.

Nid oedd gan y Pwyllgor Gwaith ddewis heblaw anrhydeddu'r cytundeb a thalwyd yr arian.

Mae hyn yn cryfhau'r dweud fel yn y gerdd sy'n difrio'r Orsedd am beidio ag anrhydeddu Sion Aubrey cyn i Emrys Roberts, fu gynt yn Archdderwydd, ymddiswyddo yn 1994.

Yr oedd mewn Protestaniaeth gymhelliad cryf iawn i anrhydeddu'r werin byth ar ôl i Martin Luther esbonio arwyddocâd Offeiriadaeth yr Holl Saint.

Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.

Bwriad y Clwb yw hybu cydweithrediad ymhlith Cymry Cymraeg sy'n sgrifennu neu'n darlledu am chwaraeon; helpu i gyhoeddi llenyddiaeth am chwaraeon yn yr iaith Gymraeg ac anrhydeddu Cymry Cymraeg sydd ar frig eu camp.

Ymhen blynyddoedd cafodd ei anrhydeddu am ei waith gan y Frenhines gyda'r OBE Bu'n aelod ffyddlon yn Eglwys y Tabernacl ar Ffordd y Gartgh, ac wedi hir bendroni roedd yn un

Anrhydeddu Cymrawd cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol, y Canon Maurice Jones.